San Steffan yn trafod pleidleisiau Seisnig yn unig

San Steffan

Ar fore trannoeth refferendwm yr Alban fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai mwy o bŵer ar y ffordd i Gaeredin, Caerdydd a Belfast.

Ond fe ddywedodd David Cameron hefyd fod angen ateb i'r cwestiwn Seisnig.

Heddiw mae ei lywodraeth yn cynnig eu hateb nhw - Pleidleisiau Seisnig ar gyfer Cyfreithiau Seisnig (PSCS).

Ar hyn o bryd mae'r holl Aelodau Seneddol o bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn cael dweud eu dweud ar bob mesur sy'n cael ei gyflwyno ar lawr Tŷ'r Cyffredin.

Fell, er nad yw aelodau Seisnig yn gallu dylanwadu ar feysydd sydd wedi eu datganoli i'r Cynulliad, Holyrood a Stormont - fel iechyd ac addysg - mae'r aelodau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu pleidleisio ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar ysgolion ac ysbytai yn Lloegr.

Image copyright Getty Images
Image caption Byddai'r drefn newydd yn creu system decach, medd Chris Grayling

O dan y drefn newydd sy'n cael ei chynnig gan y Llywodraeth Geidwadol, byddai cam ychwanegol yn y broses ddeddfu - rhoi feto i'r aelodau o Loegr ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar Loegr yn unig.

Weithiau bydd feto hefyd i aelodau Cymreig lle mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio ar Gymru a Lloegr, er enghraifft ar faterion plismona - maes sydd wedi ei ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon ond nid i'r Cynulliad.

Dros bum mlynedd y Senedd ddiwethaf, roedd dau fesur yn effeithio ar Loegr yn unig ac 11 yn effeithio ar Gymru a Lloegr.

'Tegwch'

Yn ôl arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Chris Grayling, byddai'r drefn newydd yn golygu "tegwch gwirioneddol i'n trefniadau cyfansoddiadol".

Ond mae'r gwrthbleidiau yn gwrthwynebu'r cynnig yn chwyrn. Cynllun wedi ei greu "ar gefn pecyn o sigaréts" yw hwn, meddai Llafur, tra bod yr SNP yn poeni y bydd yn creu dwy haen o Aelodau Seneddol.

Mae'r cynnig yn debyg o gyffroi teimladau rhai o genedlaetholwyr Seisnig y Ceidwadwyr, er y bydd rhai - gan gynnwys cyn-Ysgrifennydd Cymru John Redwood - am i'r llywodraeth greu Senedd annibynnol i Loegr.

Image caption Mae Glyn Davies yn poeni am sgil effaith y newid

Ond ar y llaw arall, mae sawl un o'r Ceidwadwyr Cymreig yn poeni am sgil effaith y newid, gan gynnwys Glyn Davies, AS Sir Drefaldwyn, sedd sydd ar y ffin â Lloegr.

"Yn ôl pob tebyg, mae tua 85% o'r etholwyr yn Sir Drefaldwyn yn derbyn rhyw fath o ofal iechyd yn Sir Amwythig lle mae'r system iechyd yn cael ei diwygio," meddai.

"Mae'n chwerthinllyd meddwl na fyddai AS Sir Drefaldwyn yn rhan o'r ddadl yna [o achos y drefn newydd].

"Rwy'n deall pam mae aelodau Seisnig am fynd i'r afael â'r mater yma ond dydw i ddim yn argyhoeddedig y bydd yn gweithio."

Er hynny, dyw e ddim yn bwriadu pleidleisio yn erbyn ei blaid ei hun ac felly mae'n debyg y bydd y llywodraeth yn ennill y bleidlais.

Ond does dim dwywaith y bydd yn creu tipyn o stŵr gwleidyddol.