'Cwricwlwm Cenedlaethol newydd ar gael erbyn 2018'

Huw Lewis
Image caption Bydd Huw Lewis yn lansio ei gynllun 'Cwricwlwm i Gymru - Cwricwlwm Am Oes' ddydd Iau

Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn dweud ei fod eisiau i gwricwlwm newydd fod ar gael i ysgolion Cymru erbyn 2018, gyda'r dysgu ffurfiol ar waith erbyn 2021.

Yn y Gynhadledd Addysg Genedlaethol yng Nghaerdydd, mae Mr Lewis a'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn amlinellu'r camau diweddaraf ynglŷn â gweithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod y cyhoeddiad yn golygu "dim newid" cyn belled ag y mae dysgu Cymraeg fel ail iaith yn y cwestiwn, a bod y gweinidog ddim wedi gweithredu'r hyn a ddywedodd wrthyn nhw'n ddiweddar.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ei fod yn derbyn pob un o'r 68 argymhelliad yn adroddiad annibynnol yr Athro Graham Donaldson, 'Dyfodol Llwyddiannus' ar y cwricwlwm a'r trefniadau asesu yng Nghymru.

Hefyd, cytunodd i gyhoeddi cynllun i ddisgrifio sut fydd buddiannau llawn Dyfodol Llwyddiannus yn cael eu cyflawni.

Yn y gynhadledd ddydd Iau, bydd y Gweinidog yn lansio ei gynllun 'Cwricwlwm i Gymru - Cwricwlwm Am Oes'. Mae'r cynllun yn disgrifio'r camau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd, wrth gydweithio â'r proffesiwn, i lunio a datblygu cwricwlwm newydd erbyn 2018.

'Cyfnod cyffrous'

Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd y Gweinidog: "Mae adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Donaldson wedi rhoi sylfeini i ni ar gyfer y cwricwlwm cyntaf i gael ei lunio yng Nghymru - un fydd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif a lle bydd y syniadau cenedlaethol a rhyngwladol diweddaraf yn dylanwadu arno.

"Fy uchelgais i yw y bydd gan ysgolion Cymru gwricwlwm newydd erbyn 2018 gyda'r dysgu ffurfiol cyntaf yn digwydd erbyn 2021.

"Rwy'n credu bod hon yn amserlen realistig a chyraeddadwy ac yn un sy'n taro'r nodyn cywir rhwng cyflymdra a sicrhau bod y proffesiwn dysgu'n cael ei ddatblygu i gefnogi ein ffyrdd newydd o ddysgu ac addysgu.

"Does yna dim dwywaith bod hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru.

"Mae'n rhaid i ni weithio'n agos â'n hysgolion arloesi, y proffesiwn dysgu ehangach a'n partneriaid i ddatblygu cwricwlwm sy'n cefnogi llwyddiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru ac sy'n cynnig y dysgu a'r addysgu y maen nhw'n ei haeddu."

Image caption Cafodd pob un o 68 argymhelliad yr Athro Graham Donaldson eu derbyn

'Diwygiad radical'

Dywedodd yr Athro Graham Donaldson: "Mae Cymru ar fin dechrau ar ddiwygiad radical o'i chwricwlwm a'i threfniadau asesu.

"Yn y pen draw, bydd llwyddiant y diwygiad hwn yn ei gyfanrwydd yn cael ei ddylanwadu gan drosi syniadau'n gwricwlwm a threfniadau asesu ymarferol ond hefyd, gan y ffordd y caiff ei ddatblygu.

"Yr her yw bod yn greadigol ac yn realistig wrth greu cwricwlwm a fframwaith asesu newydd. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â chydweithwyr ar hyd a lled y wlad er mwyn cyflawni ein nodau sef gwell dysgu a safonau uwch i bobl ifanc Cymru."

'Dim newid'

Ond mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod y cyhoeddiad am newidiadau i'r cwricwlwm yn golygu parhau â system Cymraeg ail iaith sy'n methu pobl ifanc.

Mewn datganiad dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y ddogfen yn dweud y dylai awdurdodau 'rhannu arferion da o ran dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith'.

Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas yn dweud bod y Gweinidog Addysg wedi dweud wrthyn nhw mewn cyfarfod cwta bythefnos yn ôl bod "y cysyniad o'r Gymraeg fel ail iaith yn gysyniad sydd ddim yn gweithio bellach, felly dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i gael cymhwyster o'r fath".

Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu dim newid. Mae hynny'n mynd i arwain at y rhan fwyaf o'n plant yn cael amddifadu o'r gallu i fyw eu bywydau yn Gymraeg.

"Mae'r cyhoeddiad felly yn ddedfryd oes o fywyd heb y Gymraeg i'r genhedlaeth nesaf. Mae'n debyg bydd angen Llywodraeth newydd i gyflawni'r hyn mae pobl eisiau, sef pob un o'n pobl ifanc yn gadael ysgol yn rhugl eu Cymraeg."

"Yn ôl Graham Donaldson mae angen 'gweithredu gan ddilyn gweledigaeth glir'. Mae parhau gyda threfn dysgu'r Gymraeg fel ail iaith yn dangos diffyg gweledigaeth ac yn tanseilio unrhyw ddatblygiad posibl."

Image caption Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn annerch cynhadleddwyr y Gynhadledd Addysg Genedlaethol

'Elwa ar y momentwm'

Pwysleisiodd Carwyn Jones y pwysigrwydd o sicrhau bod "y momentwm newydd o fewn byd addysg yng Nghymru yn parhau".

Dywedodd Mr Jones cyn y gynhadledd: "Rwy'n frwd ynghylch ein system addysg. Os ydych yn frwd dros addysg yng Nghymru ac yn credu y gall fod yn well ac y bydd yn well, rydym ar yr un donfedd.

"Mae'n rhaid i ni elwa i'r eithaf ar y momentwm newydd o fewn byd addysg yng Nghymru, gan beidio ag ofni'r diwygiadau y mae angen eu gwneud er mwyn cyflawni'r system addysg y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

"Roedd y byd addysg yng Nghymru'n wahanol iawn ym 1999. Roedd lefelau cyrhaeddiad yn isel, roedd adeiladau mewn cyflwr difrifol ac roedd eu cyfleusterau'n wael, roedd maint dosbarthiadau'n rhy fawr ac nid oedd y plant yn cael yr un cyfleoedd i ddysgu a ffynnu drwy gwricwlwm arloesol.

"Nid dyma'r sefyllfa erbyn hyn.

"Rhaid i'r momentwm newydd o fewn byd addysg yng Nghymru barhau ac rwy'n hyderus mai dyna fydd yn digwydd. Mae dyfodol ein pobl ifanc yn fater rhy bwysig i'w roi o'r neilltu."