Marwolaeth Llyn y Felin yn ddamwain, medd crwner

Mill Pond, Pembroke Image copyright Jaggery/Geograph

Roedd marwolaeth dyn 52 oed yn Llyn y Felin ym Mhenfro yn ddamwain, yn ôl crwner.

Clywodd cwest yn Aberdaugleddau bod Wayne Anthony Young yn feddw pan aeth i mewn i'r dŵr ar 1 Ionawr.

Mr Young oedd y cyntaf o dri i farw yn y llyn y flwyddyn hon, ac roedd galw am osod ffensys diogelwch.

Penderfynodd grwner ym mis Awst mai damwain oedd marwolaeth John Lyall, 57 oed, hefyd.

Bydd cwest yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd i farwolaeth Robert Mansfield, gafodd ei ganfod yn farw yn y dŵr ym mis Gorffennaf ar ôl bod allan yn dathlu ei ben-blwydd yn 18 oed.

Straeon perthnasol