Faletau i adael y Dreigiau?

Taulupe Faletau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Taulupe Faletau

Mae'r Dreigiau wedi gwneud cais ffurfiol i Undeb Rygbi Cymru i gael gwerthu'r wythwr rhyngwladol Taulupe Faletau.

Yn y gorffennol mae Caerfaddon wedi dangos diddordeb yn y chwaraewr 24 oed.

Mae gan Faletau flwyddyn yn weddill o'i gytundeb, a gan ei fod yn chwaraewr rhyngwladol byddai angen i Warren Gatland gymeradwyo unrhyw gytundeb trosglwyddo.

Fe wnaeth prif weithredwr y Dreigiau Stuart Davies gadarnhau fod y rhanbarth wedi gwneud cais i'r Undeb Rygbi.

Dywedodd ei fod yn gobeithio cael "diweddglo cyflym" i'r mater.

"Rwy'n siomedig iawn fod hyn yn rhywbeth sydd nawr yn fater cyhoeddus, byddai'n well gennyf wneud sylw o'r fath unwaith fod pethau fel hyn wedi eu datrys naill ffordd na'r llall. "

Ym mis Mai fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru benderfynu roi'r gorau i gynnig cytundeb deuol i Faletau - a hynny ar ôl iddo ef fethu ag arwyddo o fewn cyfnod penodol.

Credir fod bwrdd y Dreigiau yn barod i werthu'r blaenwr am ffi chwe ffigwr,

Ond mae Gatland wedi dweud yn y gorffennol na fyddai'n cytuno, oherwydd gallai hynny olygu na fyddai Faletau ar gael ar gyfer y tîm cenedlaethol.

Straeon perthnasol