Cyfrinachau'r brifddinas

Caerdydd

Ar 28 Hydref mae'n union 110 o flynyddoedd ers i Gaerdydd gael statws dinas. Mae'r ddinas wrth reswm wedi newid llawer ers 1905 ond mae yna hanes cyfoethog i'r ardal ymhell cyn hynny.

Mae Nigel Bevan yn tywys ymwelwyr o gwmpas y ddinas gyda chwmni Cardiff On Foot. Mae o wedi rhannu ambell i ffaith ddiddorol am y ddinas gyda Cymru Fyw:


Ernest Willows

Ar 4 Mehefin, 1910, fe laniodd awyrlong o flaen Neuadd Dinas Caerdydd, gyda'r peiriannydd ifanc Ernest Willows wrth y llyw. Yr haf hwnnw hefyd, Ernest oedd y cyntaf i hedfan dros Fôr Hafren, gan hedfan hyd ar uchder o 2800 o droedfeddi!

Ym mis Tachwedd aeth Willows a'i awyrlong i Ffrainc, ac ar nos Galan bu'n hedfan o gwmpas Tŵr Eiffel. Bu farw mewn damwain balŵn pan roedd yn ei 40au.

Ond yn eironig, doedd 'na fawr o frwdfrydedd gan y cyhoedd nôl yng Nghymru am gampau Ernest Willows. Er hyn, mae'n dal i gael ei gofio yng Nghaerdydd. Mae Ysgol Uwchradd Willows, a oedd yn ganolbwynt i'r gyfres ddogfen ddiweddar Educating Cardiff, wedi ei henwi ar ei ôl. Mae tafarn yr Ernest Willows hefyd ar Heol y Ddinas.

Image copyright Channel 4
Image caption Dyw gorchestion Ernest Willows ddim wedi mynd yn angof yng Nghaerdydd

John Batchelor

Mae'n anodd credu bod llongau hwyliau pren yn cael eu hadeiladu ar ochr orllewinol Heol y Santes Fair mor hwyr a'r 1840au. Roedden nhw yn cael eu lansio i Afon Taf o ardal Heol y Porth (Westgate Street).

Un o'r adeiladwyr llongau mwya' adnabyddus oedd John Batchelor, ac mae cofgolofn iddo yn Yr Ais (The Hayes). Daeth Batchelor yn faer Caerdydd pan yn 33 oed, ac roedd yn ddiwygiwr dylanwadol. Ymgyrchodd i wella'r system garthffosiaeth, codi rhagor o ysgolion yn ogystal â chwarae ei ran yn natblygiad dociau Penarth.

Image caption Y cerflyn o John Batchelor sy'n sefyll ar Yr Ais yng Nghaerdydd

Merthyron Catholig Caerdydd

Mae'r groesffordd sy'n uno Heol Crwys, Heol y Ddinas, Mackintosh Place, Heol Richmond a Heol Albany yn cael ei 'nabod yn lleol fel 'Death Junction' gan bod y traffig yn drwm iawn yno ar adegau.

Ond mae gan yr enw ystyr arall. Yn ôl yr hanes dyma lle roedd crocbren ('gibbet') Caerdydd. Roedd cyrff troseddwyr a oedd wedi eu dienyddio yn cael eu gosod arno. Mae'n bosib fod yr enw 'Crwys' yn dod o'r gair 'croes', a oedd yn cyfeirio at yr hen grocbren.

Mynachglogydd coll Caerdydd

Ar un adeg roedd gan Caerdydd ddwy fynachglog; Tŷ'r Brodyr Duon (Blackfriars), sydd a'i olion i'w gweld o Barc Bute a Thŷ'r Brodyr Llwydion (Greyfriars), sydd ond yn cael ei chofio y dyddiau yma oherwydd Heol y Brodyr Llwydion, y stryd sydd wedi ei henwi ar ei ôl yng nghanol y ddinas.

Erbyn 1610, pan luniodd John Speed ei fap hyfryd, roedd Blackfriars yn adfeilion ond roedd Greyfriars wedi ei addasu gan deulu cyfoethog Herbert i fod yn un o gartrefi mawreddog de Cymru.

Image copyright Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Image caption Olion Tŷ'r Brodyr Duon ym Mharc Bute yng nghysgod Castell Caerdydd

Ivor Novello Davies - Seren cyntaf Prydain

Anaml y mae sioeau cerdd Ivor Novello yn cael eu perfformio y dyddiau yma, ond yn y 1930au a 1940au roedd yn un o'r sêr enwocaf yn y byd. Cafodd ei eni yn 1893 ar Heol y Bontfaen yng Nghaerdydd, ddim ymhell o ganol y ddinas.

Roedd ei dynged yn y byd cerddorol a daeth ei gân 'Keep the Home Fires Burning' yn un o ganeuon mwyaf poblogaidd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Aeth ymlaen i gynhyrchu, cyfarwyddo ac ymddangos mewn amryw o sioeau cerdd llwyddiannus. Yn y cyfnod doedd taith i Lundain ddim yn gyflawn heb y cyfle i weld un o sioeau Novello.

Mentergarwch Solomon Andrews

Os y sefwch chi o flaen y farchnad ar Heol y Frenhines edrychwch i fyny a darllenwch y geiriau sydd wedi eu cerfio uwchben y fynedfa - Erected 1886 by S Andrews & Son.

Solomon Andrews oedd dyn busnes mwyaf dylanwadol Caerdydd ar un adeg. Dechreuodd ei yrfa yn gwerthu losin ar y stryd yn 1863 ac yna dechreuodd fusnes tacsi gyda chert a cheffyl.

Ond dim ond dechrau ei ymerodraeth fusnes yr oedd o. Tyfodd y busnes tacsis i gynnwys bysiau wedi eu tynnu gan geffylau.

Manteisiodd yn ddiweddarach ar dwf y tramiau. Bu hefyd yn datblygu tir, arloesi gyda hysbysebu, agor siopau coffi, buddsoddi mewn gweithfyedd haearn, ffermio, cynhyrchu briciau, datblygu siopau mawr David Evans, sefydlu pentre gwyliau ger Pwllheli a rhedeg cwmni trefnu angladdau! Roedd yn dipyn o ddyn!

Image caption Mae olion mentergarwch Solomon Andrews yn dal yn bresennol heddiw yn y ddinas

Pam 'Parc yr Arfau, Caerdydd'?

Mae'r enw yn deillio o hen westy'r Cardiff Arms a oedd yn sefyll ar safle gwesty'r Angel heddiw. Yn y dyddiau hynny roedd yr Afon Taf yn llifo trwy ardal Heol y Porth. Yn 1849 cafodd llwybr yr afon ei newid er mwyn creu tir ar gyfer gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog.

Cafodd y tir a oedd dros ben ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon - rygbi yn bennaf. Mae'r 'Arfau' yn cyfeirio at y dair llinell onglog (chevron) sydd ar arfwisg Caerdydd, ac ar fathodynnau Clwb Rygbi Caerdydd a Gleision Caerdydd.

Roedd y symbol yn rhan o arfbais Iestyn ap Gwrgant, un o dywysogion Morgannwg yn y 11eg ganrif.

Image caption Caeau Parc yr Arfau yn 1947

HMS Hamadryad - Ysbyty Llong Caerdydd

Erbyn yr 1890au roedd Caerdydd yn un o'r porthladdoedd mwyaf yn y byd, ac yn dal i dyfu. Roedd Dr. Henry James Paine, y Swyddog Meddygol yn poeni am afiechydon cholera a typhus, ac mewn ymdrech i ddatrys y broblem cafodd llong ei rhoi gan y Morlys i daclo'r broblem.

Cafodd llong rhyfel yr HMS Hamadryad ei lansio yn Noc Penfro yn 1823 ond chafodd hi erioed ei defnyddio mewn unrhyw frwydr. Rhoddodd Iarll Bute ddarn o dir er mwyn angori'r llong yn nociau Caerdydd. Cafodd degau o filoedd o ddynion eu trin ar y llong tan i Ysbyty Brenhinol Hamadryad agor ar y tir mawr yn 1905.