Cwpan Rygbi'r Byd: Nigel Owens i ddyfarnu'r ffeinal

Nigel Owens Image copyright PA

Y Cymro Nigel Owens sydd wedi ei ddewis i ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd rhwng Seland Newydd ac Awstralia.

Dyma fydd y bumed gêm yn y bencampwriaeth iddo ddyfarnu, ar ôl iddo ddyfarnu gemau Tonga v Georgia, Yr Alban v De Affrica a Ffrainc v Iwerddon - yn ogystal â'r gêm go gyn derfynol rhwng Seland Newydd a Ffrainc.

Bydd y ffeinal yn dechrau am 16:00 ar ddydd Sadwrn 31 Hydref, yn Twickenham.

Jerome Garces a Wayne Barnes fydd yn cynorthwyo Owens yn ystod y gêm.

Owens, 44, yw'r unig ddyfarnwr o Gymru yng Nghwpan y Byd eleni, a bu'n rhan o banel 2011 a 2007, yn ogystal.

Ef yw'r ail Gymro i ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd, ar ôl Derek Bevan, oedd yn dyfarnu wrth i Awstralia guro Lloegr yn 1991.

Dywedodd Owens ei fod yn "fraint ac yn anrhydedd" cael ei ddewis.

"Dyma fy nhrydedd Cwpan Rygbi'r Byd, a dwi'n meddwl y gorau. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth.

"Mae safon y rygbi wedi bod yn anhygoel o flaen torfeydd llawn, ac felly mae cael y cyfle i ddyfarnu'r ffeinal rhwng y timau gorau yn y gystadleuaeth yn fraint."

O Fynyddcerrig i ffeinal Cwpan y Byd

  • Magwyd Nigel Owens ym Mynyddcerrig, Sir Gâr. Cyn cymhwyso fel dyfarnwr, bu'n gweithio fel technegydd yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa.
  • Fe gymhwysodd fel dyfarnwr yn 2005.
  • Wedi iddo ddatgelu mewn cyfweliad yn 2007 ei fod yn hoyw, fe gafodd ei enwi'n 'Bersonoliaeth Chwaraeon Hoyw y Flwyddyn' gan elusen Stonewall wedi Cwpan Rygbi'r Byd y flwyddyn honno.
  • Cafodd ei hunangofiant ei gyhoeddi yn 2008, a'i gyfieithu i'r Saesneg yn 2009.
  • Yn 2011, cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd.
  • Mae'n ymwneud â nifer o ymgyrchoedd i amddiffyn pobl hoyw a thrawsrywiol, ac ef yw noddwr elusen Bullies Out yng Nghymru.