Stiwdio'r BBC ym Mangor yn 80 oed

Bryn Meirion

Ar 1 Tachwedd, 1935, fe agorwyd stiwdio y BBC ym Mangor.

Mae'r ganolfan dal wedi'i lleoli ym Mryn Meirion, safle oedd yn hen dŷ crand, yn agos i'r brifysgol ar ben y bryn.

Yn ôl llyfr yr hanesydd Dr John Davies, Broadcasting and the BBC in Wales, roedd rhaid defnyddio offer symudol i ddarlledu'r rhaglenni cyntaf gan nad oedd y systemau technegol yn barod yn y ganolfan newydd.

Un o'r lleisiau cyntaf ar yr awyr oedd David Lloyd George, aeth i'r stiwdios newydd ar 8 Tachwedd i wneud darllediad gwleidyddol.

Ar wasanaeth radio cenedlaethol y BBC, cafodd neges Lloyd George ei ddarlledu, ond prif bwrpas y stiwdios ym Mangor oedd darlledu rhaglenni ar gyfer y gwasanaeth newydd i Gymru - the Wales Regional Service.

Dim trosglwyddydd yn y gogledd

Yn anffodus, nid oedd modd i drigolion Bangor na gweddill gogledd Cymru glywed rhaglenni'r gwasanaeth newydd am 15 mis wedi agoriad y stiwdios ym Mangor. Dim ond ym mis Chwefror 1937 y cafodd y trosglwyddydd ei droi ymlaen a alluogodd y gogledd i dderbyn y donfedd Gymreig.

Felly dim ond yn ne Cymru oedd hi'n bosib clywed y llais cyntaf o Fangor i gyrraedd y gwasanaeth Cymreig - Mrs Grace Wynne Griffiths - ar 11 Rhagfyr, 1935. Does dim llawer mwy nag enw'r cyfrannwr yn bodoli i nodi'r achlysur hanesyddol hwn. Yn wir, doedd hi ddim yn gyffredin i recordio unrhyw raglenni byw yn ystod blynyddoedd cyntaf y darllediadau o Fangor.

Mae'r Dr John Davies yn nodi yn ei lyfr bod rhaid i raglenni byw oedd i fod i gael eu hail-ddarlledu gael eu recordio gan dechnegwyr yng Nghaerdydd wrth iddyn nhw gael eu darlledu o Fangor.

Yna, roedd y recordiadau'n cael eu hanfon o Gaerdydd i Fangor ar y trên, er mwyn i'r stiwdios newydd allu ail-ddarlledu'r rhaglen pan yn briodol.

Sam Jones oedd pennaeth cyntaf y BBC ym Mangor yn 1935, ac yn gyfrifol am ogledd Cymru ar gyfer y gorfforaeth tan ei ymddeoliad yn 1963. Roedd ei frwdfrydedd i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg yn gyfrifol am bwyslais cynnar y BBC ar ddarlledu'n ddwyieithog, a hynny cyn sefydliad gorsafoedd penodol yn Gymraeg a Saesneg - Radio Cymru a Radio Wales - yn y 1970au.

Yr Ail Ryfel Byd

Daeth y ganolfan yn rhan bwysig o rwydwaith o ganolfannau'r BBC. Yn ystod yr ail ryfel byd, symudwyd adran adloniant ysgafn y Gorfforaeth i Fangor, yn ddiogel rhag bomiau'r Blitz.

Doedd hi ddim yn anghyffredin i weld enwogion y cyfnod, gan gynnwys Arthur Askey a Charlie Chester, yn y ddinas ar y pryd.

Fe ddaeth y rhan fwyaf o ddarllediadau'r rhwydwaith i ben ar ôl y rhyfel.

Erbyn 1950, roedd y stiwdios yn cyfrannu tua chwech awr yr wythnos i'r gwasanaeth Cymreig, the Welsh Home Service, gan gynnwys dramâu.

Cynhyrchu yn Gymraeg

Mae'r BBC ym Mangor wastad wedi cael rôl flaenllaw fel cynhyrchydd rhaglenni Cymraeg, ac mae rhaglenni dyddiol Radio Cymru megis Rhaglen Dylan Jones a Post Prynhawn wedi'u hymgartrefu yno.

Dros y blynyddoedd mae nifer fawr o raglenni newyddion a materion cyfoes, dramâu a rhaglenni ffeithiol wedi'u cynhyrchu ym Mangor, ac erbyn hyn mae miloedd o oriau o ddarlledu yn tarddu o Fryn Meirion bob blwyddyn.


I ddathlu'r pen-blwydd, mae Cymru Fyw wedi bod yn tyrchu drwy archif o wynebau mwyaf cyfarwydd Bryn Meirion dros y blynyddoedd. Pa rai sy'n gyfarwydd i chi?

BBC Bangor yr 80au a'r 90au