Fe all Plaid Cymru efelychu'r SNP, yn ôl Nicola Sturgeon

Cynhadledd Plaid Cymru
Image caption Fe all Plaid Cymru efelychu'r SNP, meddai Sturgeon

Does dim rheswm pam na all Plaid Cymru ennill etholiad nesa'r Cynulliad ym mis Mai, yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Dywedodd arweinydd yr SNP bod llwyddiant ei phlaid yn yr Alban yn dangos beth all cenedlaetholwyr o Gymru gyflawni.

Mae'r SNP yn ymgyrchu am drydydd tymor mewn grym yn senedd yr Alban ac enillodd y blaid 56 allan o 59 o seddi'r wlad yn yr etholiad cyffredinol.

Plaid Cymru yw'r drydedd blaid fwyaf yn y Cynulliad - tu ôl Llafur a'r Ceidwadwyr.

Ni lwyddodd y blaid i ennill unrhyw sedd newydd yn San Steffan eleni chwaith.

Mewn araith i gynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth, dywedodd Ms Sturgeon: "Fe neges allweddol i i chi heddiw ydi hyn - os ydi'r SNP yn gallu ennill yn yr Alban does dim rheswm pam na all Plaid Cymru ennill hefyd yng Nghymru.

"Dim ar ryw bwynt yn y dyfodol, ond nawr, mis Mai, yn yr etholiad hwn."

Fe gymeradwyodd ffyddloniaid Plaid Cymru arweinydd yr SNP yn Aberystwyth pan ddisgrifiodd Ms Sturgeon Leanne Wood fel arweinydd o'r "safon uchaf".

Fe wnaeth hi ddiolch hefyd i gefnogwyr y Blaid am gefnogi'r ymgyrch dros annibyniaeth yn yr Alban y llynedd.