Ulster 24-17 Gleision

Gleision Image copyright Press Eye

Fe gipiodd Ulster eu trydedd fuddugoliaeth mewn pum gêm yn y Pro12 y tymor yma drwy drechu'r Gleision.

Er i Rhys Patchell gicio dau gic gosb i'r Gleision, roedd Ulster ar y blaen o 12-9 hanner amser diolch i ddau gais gan Andrew Trimble a Paul Marshall.

Fe sgoriodd Ulster ddau gais arall drwy Nick Williams a Stuart McCloskey gyda'r olaf yn sicrhau'r pwynt bonws.