Llofruddiaeth Alec Warburton: Dyn yn y llys

Alec Warburton a David Craig Ellis
Image caption Mae David Craig Ellis (dde) wedi'i gyhuddo o lofruddio Alec Warburton

Mae dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gyn-landlord, Alec Warburton.

Fe wnaeth David Craig Ellis, 40, ymddangos ar gyswllt fideo o Garchar y Parc ym Mhen-y-bont.

Ni wnaeth siarad yn ystod y gwrandawiad byr, a bydd yn ymddangos eto ym mis Ionawr 2016.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa.