Trwydded amgylcheddol i losgydd gwastraff

llosgydd Image copyright Wheelabrator
Image caption Argraff artist o'r llosgydd gwastraff

Mae trwydded amgylcheddol wedi ei roi i'r cwmni tu ôl i gynllun i adeiladu llosgydd gwastraff gwerth £800m yn Sir y Fflint.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn fodlon y bydd yr ynni o'r llosgydd ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy yn "gweithredu heb niweidio'r amgylchedd".

Unwaith y bydd wedi agor, fe fydd yn llosgi 200,000 tunell o wastraff nad oes modd ei ailgylchu yn flynyddol, gan anfon digon o ynni i tua 30,000 o gartrefi i'r National Grid.

Cafodd caniatad cynllunio ei roi i'r datblygiad ym mis Mai.