Crabb: Datganoli'n methu â darparu prosiectau pwysig i Gymru

Stephen Crabb
Image caption "Ni ddylai ceisio cael mwy o bwerau fod yn ddiben ynddo'i hun," yn ôl Stephen Crabb

Dyw datganoli ddim yn arwain at brosiectau pwysig fel ffordd liniaru'r M4 a thrydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd, meddai Ysgrifennydd Cymru.

Roedd Stephen Crabb yn annerch Ysgol Fusnes Caerdydd.

Cyfeiriodd at ddiffyg cynnydd cynlluniau a dywedodd bod gormod o amser yn cael ei dreulio'n trafod pwerau'r Cynulliad.

Mynnodd Llywodraeth Cymru eu bod yn canolbwyntio ar ffyniant yn hytrach na newid cyfansoddiadol.

"Ugain mlynedd yn ôl roedd fy rhagflaenwyr yn Swyddfa Cymru yn edrych ar yr angen i uwchraddio traffordd yr M4 rhwng Caerdydd a Chasnewydd," meddai Mr Crabb.

"Roedd datganoli i fod i sicrhau bod hyn yn digwydd. Ond y gwir amdani yw nad ydi 16 blynedd o ddatganoli wedi darparu prosiect strategol fyddai'n goresgyn rhwystr mawr i dwf."

Pwrpas ei araith oedd dweud sut y bydd rhaglen ddatganoli llywodraeth San Steffan o fewn y DU yn gosod her i Gymru i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer twf a dyfeisgarwch.

'Deniadol a chyffrous'

Yn ôl Mr Crabb, roedd Cymru eisoes yn perfformio'n "well na'r disgwyl" ar y llwyfan bydeang.

Gan gyfeirio at Gwpan Rygbi'r Byd, dywedodd fod Caerdydd wedi "atgoffa'r byd unwaith eto" pam ei bod yn brifddinas "mor ddeniadol a chyffrous i ymwelwyr o bedwar ban byd".

"Ond yn y dyfodol rhaid i ni edrych tuag allan ac i fyny er mwyn cystadlu gydag economïau tramor, ac eraill o fewn y DU, sy'n tyfu'n gyflym," meddai.

"Ar draws y DU rydym yn gyrru twf economaidd drwy wthio pŵer yn is - yn datganoli'r broses o wneud penderfyniadau a chefnogi hynny gyda phwerau economaidd ac ariannol er mwyn harneisio dyfeisgarwch."

Cyfeiriodd at ymweliad arlywydd China â Phrydain yr wythnos ddiwethaf, ac at Fanceinion yn benodol, gan ddweud bod yr arlywydd wedi gweld yno ddinas sydd wedi bachu ar y cyfle o gael mwy o bwerau a datganoli i baratoi'r ddinas ar gyfer y ganrif hon.

"Mae gan Gymru gystadleuydd newydd o fewn y DU."

'Parlysu potensial'

"Ond mae perygl go iawn y bydd potensial economaidd Cymru yn cael ei barlysu gan ddadleuon di-ben-draw am y cyfansoddiad," meddai.

"Ni fydd treulio blynyddoedd mewn dadleuon hirfaith am fanion datganoli yn ein helpu i ateb yr her o fod yn fwy cynhyrchiol nac i ddatrys y diffyg sgiliau.

"Mae cyfle yma i wleidyddion Cymru wneud dyfodol economaidd ein cenedl yn brif flaenoriaeth, ac i gydnabod bod rhaid i ddatganoli fynd law yn llaw gyda gweledigaeth economaidd glir.

"Ni ddylai ceisio cael mwy o bwerau fod yn ddiben ynddo'i hun.

"Rydym yn cystadlu yn y ganrif hon ac ni fydd y byd yn fodlon aros i Gymru."

Yn dilyn cyhoeddi Mesur Drafft Cymru yn gynharach yn y mis, fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y mesur yn trin pobl Cymru fel "dinasyddion eilradd" a'i fod yn creu "feto i Loegr ar gyfreithiau Cymreig".

Straeon perthnasol