Ail aur a record byd i Aled Sion Davies

Aled Sion Davies wedi'r fuddugoliaeth Image copyright IPC
Image caption Aled Sion Davies wedi ei ail fuddugoliaeth yn Doha

Ddeg wythnos yn ôl roedd Aled Sion Davies yn cael llawdriniaeth torgest (hernia), ac roedd amheuaeth na fyddai'n gallu cystadlu ym Mhencampwriaeth Athletau Anabledd y Byd yr IPC yn Doha o gwbl.

Brynhawn Mercher, enillodd ei ail fedal aur yn y gemau yn y gystadleuaeth taflu'r ddisgen gan dorri record y byd ddwywaith yn ystod y gystadleuaeth.

Ddydd Iau 22 Hydref enillodd aur am daflu pwysau (F42), ond y categori F42 am daflu'r ddisgen oedd yn cael ei sylw ddydd Mercher.

Yn y drydedd rownd fe daflodd bellter o 49.38m i dorri'r record byd a mynd ar y blaen.

Ond roedd gwell i ddod gyda thafliad o 49.59m i ennill yr aur gyda thafliad oedd bron chwe metr a hanner yn bellach nag enillydd yr arian.

Straeon perthnasol