Saith diwrnod

Catrin Beard

Catrin Beard sy'n trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru:


Gyda'r atgofion am gynadleddau blynyddol y pleidiau gwleidyddol yn pylu - ok, wedi hen bylu - byddech chi'n meddwl falle y byddai sylwebwyr gwleidyddol yn manteisio ar y cyfle i gael saib bach cyn miri etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Dim o'r fath beth. Un sydd wedi dechrau blogio'n Gymraeg yn gymharol ddiweddar yw'r cyn Aelod Seneddol Llafur, y Democrat Rhyddfrydol Gwynoro Jones.

Mae ei gofnod diweddaraf yn blaen iawn ei fynegiant - mae gwleidyddiaeth Cymru mewn llanast, meddai, ac mae'n sefyllfa sydd wedi bodoli fwy neu lai ers sefydlu'r Cynulliad. Nid yw ein gwleidyddiaeth yn gwasanaethu'r bobl yn dda ac yn wir mae'n sefyllfa lle ni allant ennill ynddo.

Yr hyn sy'n ei boeni yw mai'r unig opsiynau sydd gan y bobl yw naill ai gweinyddiaeth Lafur gyda mwyafrif, neu weinyddiaeth Lafur sydd yn cael ei chynnal gan naill ai Plaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol, neu un fydd yn chwilio am gytundebau byr-amser a dros dro o bryd i'w gilydd er mwyn dal mewn grym. Nid oes rhyfedd fod Cymru yn statig ac yn ddi-flas yn ôl y cyn-wleidydd. Ychydig iawn o fywiogrwydd sydd i'n gwleidyddiaeth mwyach.

Wn i ddim fyddai Vaughan Roderick yn cytuno. Yn ei flog diweddaraf yntau, dywed bod etholiad 2016 eisoes yn argoeli'n ddiddorol ond gallasai'r cyfnod sy'n ei ddilyn fod hyd yn oed yn fwy difyr, ac mae'n rhagweld cryn firi os bydd Llafur yn methu ffurfio llywodraeth fwyafrifol, yn enwedig yn wyneb cryfder y teimladau yn erbyn clymbleidio mae'n eu synhwyro yn rhengoedd Plaid Cymru gyda mawrion y blaid a'r trŵps fel ei gilydd yn mynegi eu hanfodlonrwydd yn y gynhadledd yr wythnos ddiwethaf.

Dyw Vaughan ddim yn rhagweld llawer o le i'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda llaw, a hwythau fel y dywed yn cwffio i gadw eu lle ar Gyngor Cwmsgwt.

Tri o drigolion Manceinion sy'n cael sylw Lyn Ebenezer yn y Cymro. Tra'r oedd y Gwir Barchedig David Walker, Esgob y ddinas, yn ceryddu'r llywodraeth am beidio â derbyn mwy o ffoaduriaid o Syria, gan annog pobl i gynnig eu stafelloedd cysgu sbâr iddyn nhw. Mynnodd hefyd nad yw ei blasty chwe stafell wely ei hun yn addas i'r diben.

Mae Lyn yn cyferbynnu hyn ag ymateb y ddau gyn-beldroediwr Ryan Giggs a Gary Neville pan dorrodd sgwatwyr i mewn i hen adeilad y Gyfnewidfa Stoc, a brynwyd gan y ddau i'w droi'n westy moethus. Yn hytrach na mynnu gorchymyn llys er mwyn eu hel oddi yno, mae'r ddau wedi caniatáu i'r deg ar hugain o bobl ddigartref aros yn yr adeilad tan o leiaf fis Chwefror.

Image caption Hen adeilad y Gyfnewidfa Stoc ym Manceinion

Holi mae Lyn pwy sydd agosaf at egwyddorion Crist heddiw - un o'i weision penodedig sy'n teimlo bod ei dŷ yn llawn ynteu dau gyn-beldroediwr na wnânt droi tlodion o'u drws. Ydy, dywed, mae'r cyferbyniad yn ddameg fach amserol.

Faint o blantos bach fydd yn dod at eich drws chi nos fory tybed? Yr arferiad - ydy o'n draddodiad bellach dwedwch? - o guro drysau ar noson Calan Gaeaf yw testun stori fer Manon Steffan Ros yn Golwg yr wythnos hon.

Mae'r ferch fach yn y stori am wisgo fel zombie eleni, neu fel y mae ei mam hi'n dweud, 'y meirw byw' - fel tasa unrhyw un call yn mynd i alw zombies yn hynna, fel y dywed y fechan, ac mae'n cofio i'w mam y llynedd drio gael y plant i ddweud 'Tric ynteu foethau, p'run ydi'r gorau?' yn lle 'Trick or treat?' pan roedd pobl yn agor eu drysau. As. If.

Wel tase 'na blentyn yn dod heibio fy nhŷ i nos fory a gofyn y cwestiwn fel'na yn Gymraeg, fyddwn i wrth fy modd, ac fe gâi lond cwdyn o losin a phwmpen i fynd efo fo. Beth amdani blant?

Image copyright Darkdwarf/Flickr