Cwmni technoleg o Bort Talbot yn creu 22 o swyddi

cyfrifiadur
Image caption Mae cwmni Vizolution am ehangu ar ei safle ym Mharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot

Bydd 22 o swyddi yn cael eu creu wrth i gwmni technoleg ehangu ym Mhort Talbot.

Mae cwmni Vizolution wedi derbyn grantiau a benthyciadau o £275,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu'r busnes.

Cyflenwi canolfannau cyswllt yn y diwydiant ariannol y mae'r cwmni ond maen nhw'n bwriadu targedu'r sector gyfathrebu a gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart y byddai'r arian yn galluogi'r cwmni i "gyrraedd y lefel nesa."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.