Dur: Dwsinau o swyddi'n diflannu yng Nghymru

Caparo
Image caption Ffatri Caparo yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr

Mae cwmni dur wedi dweud bod cannoedd o swyddi'n diflannu, gan gynnwys dwsinau yng Nghymru.

Aeth Caparo Industries i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Medi.

Awgrymodd undebau taw mewnforion rhad oedd y rheswm am drafferthion ariannol y cwmni.

Bydd 12 o swyddi'n diflannu yn Wrecsam ac 17 yn Nhredegar.