Damwain Porthcawl: Comisiwn yn ymchwilio

cerbydau brys Porthcawl

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu'n ymchwilio wedi gwrthdrawiad y tu allan i glwb nos pan gafodd 13 eu hanafu.

Aed â'r 13 i'r ysbyty wedi'r digwyddiad fore Sul ym Mhorthcawl.

Mae dyn 24 oed wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau a bydd yn Llys y Goron Caerdydd ar 9 Tachwedd.

Dywedodd Jan Williams, Comisiynydd Cymru: "Roedd fan heddlu yn yr ardal ychydig cyn y gwrthdrawiad a bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa gamau gymerodd yr heddlu yn achos y car Audi ac a gafodd y drefn briodol ei dilyn."