Sganiwr MRI £6m yn cyrraedd Prifysgol Caerdydd

Sganiwr

Mae sganiwr MRI enfawr sy'n ddigon pwerus i adnabod clefyd yn yr ymennydd wedi cyrraedd Prifysgol Caerdydd.

Bydd y system, sydd werth £6m ac ond y trydydd o'i fath yn y DU, yn galluogi i ymchwilwyr astudio clefydau fel dementia, sgitsoffrenia ac iselder.

Y gobaith yw y bydd y sganiwr, sy'n pwyso 40 tunnell, yn helpu i ddal clefydau yn gynt ac i fonitro triniaethau newydd.

Image caption Mae'r sganiwr yn creu delweddau manwl iawn o'r ymennydd

Mae'n rhan o gyfleuster ymchwil newydd, Cubric, ar Gampws Arloesi Caerdydd.

Mae'r magnet enfawr o fewn y sganiwr yn creu lluniau manwl o'r ymennydd, ac mae'n gyflymach na sganwyr traddodiadol.

Image copyright Cardiff University
Image caption Mae'r sganiwr mewn adran ymchwil sy'n rhan o Gampws Arloesi Caerdydd