Cyngerdd hanesyddol Cerddorfa'r BBC ym Mhatagonia

Cyngerdd Patagonia Image copyright Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi perfformio cyngerdd hanesyddol ym Mhatagonia.

Dyma'r gerddorfa symffoni broffesiynol gyntaf erioed i berfformio yn y rhanbarth.

Daeth cyngerdd nos Wener ar ddiwedd wythnos breswyl i'r gerddorfa ym Mhatagonia i ddathlu'r 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa.

'Cynhesrwydd'

Disgrifiodd Michael Garvey, cyfarwyddwr Cerddorfa Gymreig y BBC, y "cynhesrwydd" y mae'r gerddorfa wedi ei dderbyn gan bobl leol.

"Beth fydda i'n cymryd adre o'r wythnos hon ym Mhatagonia yw'r cynhesrwydd rydym wedi ei dderbyn, a'r sgiliau anhygoel a'r gallu mae ein cerddorion wedi ei ddangos wrth ymdrin â phob math o wahanol bobl, o ysgolion i gorau ieuenctid a cherddorfeydd."

"Yr hyn mae cerddorion yn ei garu yw cael adborth o'r gynulleidfa, ac i deimlo bod eu cerddoriaeth yn golygu rhywbeth i'r rhai sy'n gwrando. Ac mae hynny wedi bod mor amlwg yn y gweithdai ry'n ni wedi bod yn ei wneud yma. "

Image caption Roedd y delynores Catrin Finch yn perfformio yn y Gyngerdd

Gwyliodd dros fil o bobl y gyngerdd ddydd Gwener mewn hen warws gwlân yn ninas Trelew.

Caneuon Cymraeg poblogaidd, gan gynnwys Calon Lân, oedd yn cael eu perfformio gan y gerddorfa, tra bo nifer o unawdwyr lleol wedi mentro canu Ar Hyd y Nos.

Image copyright AP

Ymunodd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, sydd hefyd yn teithio trwy'r Ariannin, â nifer o gorau amatur lleol i ganu ochr yn ochr â'r gerddorfa.

Bydd taith y gerddorfa yn Ne America'n parhau gyda chyngherddau pellach yn yr Ariannin, Chile a Uruguay.