Ipswich 0-0 Caerdydd

Ipswich v Caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd yn y nawfed safle yn y Bencampwriaeth ar ôl gêm ddi-sgôr i ffwrdd yn Ipswich.

Dyw Caerdydd ddim wedi colli yn ei chwe gêm ddiwethaf, a bydd y pwynt oddi cartref yn rhywfaint o gysur i reolwr Caerdydd, Russell Slade, ond mae prinder goliau'r tîm yn achos pryder.

Pymtheg gôl y mae'r Adar Gleision wedi eu sgorio mewn 14 gêm, a dim ond dwy yn y pum gêm ddiwetha.