Casnewydd 2-2 Northampton

Casnewydd Northampton Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd Casnewydd i frwydro nôl i gipio pwynt ar ôl ildio dwy gôl adre yn erbyn Northampton.

Aeth Sam Hoskins a Mark Richards a'r ymwelwyr ar y blaen, cyn i goliau gan Scott Barrow a Lenell John-Lewis sicrhau gêm gyfartal.

Dywedodd rheolwr Casnewydd, John Sheridan wrth BBC Cymru: "Ychydig wythnosau'n ôl, mae'n bosib iawn y bydden nhw wedi colli'r gêm ar ôl ildio dwy gôl.

"Ein bai ni oedd y goliau, nid Northampton oedd yn chwara'n dda, jest camgymeriaidau gwirion... ond byddai'n well gen i drafod yr ymateb ges i ganddyn nhw."