Wrecsam 4-1 Barrow

Wrecsam v Barrow Image copyright Lessopix

Sgoriodd Connor Jennings a Wes York ddwywaith yr un wrth i Wrecsam guro Barrow a chodi i'r chweched safle yn y tabl.

Hon yw'r ail fuddugoliaeth o'r bron i'r tîm.

Dywedodd rheolwr Wrecsam, Gary Mills: "Dwi wedi gweld eisiau gallu dyrnu'r awyr o flaen y cefnogwyr. Roedd yn teimlo'n dda, ond dim ond saith pwynt ry ni wedi ei gymryd o'r naw gêm ddiwetha - peidiwch ag anghofio hynny."