Gêm bentref sy' nesa' i Nigel

Nigel Owens Image copyright Getty Images

Ar ôl dyfarnu gêm fwya'i yrfa hyd yma, gêm rhwng dau dîm pentre fydd her nesaf Nigel Owens.

Roedd miliynau'n ei wylio'n cadw trefn ar y Crysau Duon ac Awstralia yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd ddydd Sadwrn.

Ond wythnos yn ddiweddarach, bydd Owens, 44 oed, yn dyfarnu yn Nhre-gŵyr ger Abertawe, lle mae disgwyl torf o ryw 150.

Dywedodd ei bennaeth, Nigel Whitehouse: " Fe gafodd (Nigel) gwpan y byd gwych, a fe oedd dewis y bobl i fod yn gyfrifol am y rownd derfynol

"Ond bydd yn dyfarnu dau dim pentref y penwythnos nesa - a bydd yn dda iddo gael gwneud gêm leol."

Dyfarnwr 'gorau'r byd'

Yn llygaid llawer, Nigel Owens yw dyfarnwr rygbi gorau'r byd.

Fe oedd y dyfarnwr cynta' i godi carden felen ar chwaraewr yn rownd derfynol Cwpan y Byd, gêm a enillodd Seland Newydd o 34 i 17.

Ac fe roddodd bryd o dafod i seren y gêm, Dan Carter am ddefnyddio iaith anweddus: "Paid a rhegi, ti ar y teledu!"

Dechreuodd Owens trwy ddyfarnu gemau lleol yng Nghymru a bydd yn dychwelyd i'r canol yn y gêm rhwng Tre-gŵyr a Chrymych.

Yn ôl Mr Whitehouse, mae e'n edrych ymlaen yn fawr at y gem.

"Mae'n dda bod y chwaraewyr yn gwybod bod dyfarnwr wnaeth ei swydd mor dda yng Nghwpan y Byd yn cadw trefn arnyn nhw."

"Mae'n wych i'r gamp ar lawr gwlad, a bydd yn rhoi cyfle i Nigel gael ei wynt ato trwy ddyfarnu gêm yn agos i gartref."

Ond bydd yn ôl ar y lefel ucha'r wythnos ganlynol gyda gêm rhwng Toulon a Chaerfaddon.