Niwl trwchus yn effeithio ar deithwyr

Mae nifer o wasanaethau ym maes awyr Caerdydd wedi eu heffeithio gan niwl trwchus yn yr ardal.

Eisoes, mae dau wasanaeth o Gaeredin wedi eu canslo ac awyren o Newcastle wedi ei gohirio.

Mae rhybudd melyn mewn grym gan y Swyddfa Dywydd.

Yn ôl y swyddfa, roedd disgwyl i niwl trwchus ffurfio dros nos.

Mae'r wybodaeth ddiweddara' ar gael ar wefan y maes awyr.