'Trowch Gymru'n genedl cyflog byw' - Oxfam Cymru

Arian
Image caption Mae dros chwarter poblogaeth Cymru'n ennill llai na £7.85 yr awr

Mae Oxfam Cymru wedi herio Llywodraeth Cymru i droi'r wlad yn "genedl cyflog byw".

Yn ôl yr elusen, mae cynyddu'r nifer o weithwyr sy'n derbyn cyflog byw o £7.85 yr awr yn "allweddol i godi pobl Cymru o dlodi".

Daw yr alwad wrth i adroddiad gafodd ei ryddhau i nodi Wythnos Cyflog Byw ddangos fod dros chwarter poblogaeth Cymru yn ennill llai na'r swm hwnnw.

Mae'r llywodraeth yn talu'r cyflog byw i'w staff, ond mae Oxfam Cymru yn credu y dylen nhw fynnu bod cyrff cyhoeddus eraill yn gwneud yr un fath.

Mae'r cyflog byw yn fwy na'r isafswm cyflog cenedlaethol o £6.70 yr awr, a bydd yn codi i £8.25 yr awr yng Nghymru o fis Ebrill 2016.

Tlodi mewn gwaith

Mae 26% o bobl Cymru yn ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 23% ar draws Prydain.

Mae'r ganran yn cynyddu yn siroedd gwledig Cymru - 35% yng Ngwynedd a 31% yng Nghonwy a Sir Benfro.

Cyn trafodaeth am gyflog byw yn y Senedd brynhawn Mawrth, dywedodd Matthew Hemsley, Rheolwr Ymgyrchoedd Oxfam Cymru fod "angen gweithredu".

"Mae tlodi mewn gwaith ar gynnydd, yn rhannol oherwydd cyflogau isel. Byddai talu'r cyflog byw i fwy o bobl yn gam pwysig wrth fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru," meddai.

"Byddai hefyd o fudd wrth geisio lliniaru anghydraddoldeb rhywiol, gan ein bod ni'n gwybod fod mwy o ferched yn cael eu heffeithio gan dlodi.

"Mae rhaid inni weld Llywodraeth Cymru'n gwneud yr hyn mae'n gallu i sicrhau safon byw boddhaol i bobl Cymru."

'Hybu cynhyrchiant a morâl'

Dydd Llun, cyhoeddodd y Sefydliad Cyflog Byw fod 50 o gyrff cyhoeddus a busnesau wedi eu cadarnhau fel cyflogwyr byw, sy'n golygu eu bod yn talu'r cyflog byw fel isafswm i'w gweithwyr.

Ymysg y rheini roedd nifer o sefyliadau cyhoeddus y brifddinas - Prifysgol Caerdydd, Cyngor Dinas Caerdydd, a chwmi Bysiau Caerdydd - yn ogystal â Llywodraeth Cymru.

Image caption Mae Cyngor Dinas Caerdydd ymysg y sefyliadau sy'n talu cyflog byw i'w staff

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dalu'r cyflog byw am ein bod ni'n gwybod fod cyflog teg nid yn unig yn gallu hybu cynhyrchiant a morâl yn y gweithle, ond hefyd yn helpu wrth fynd i'r afael â heriau beunyddiol tlodi mewn gwaith a cheisio hybu economi Cymru.

"Rydym yn falch i fod yn Gyflogwr Byw ac rydym yn annog eraill yn y sector gyhoeddus a'r sector breifat i wneud yr un fath."