Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol ar ôl cael ei daro gan gar

A525 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A525 rhwng Wrecsam a Choedpoeth

Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol iawn wedi iddo gael ei daro gan gar yn Wrecsam.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A525 ychydig ar ôl 18:30 nos Lun.

Cafodd y dyn, yn ei 40au ei gymryd mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor cyn cael ei gludo i ysbyty yn Stoke-on-Trent.

Bu'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Wrecsam a Choedpoeth yn dilyn y digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu ar 101.