Bugeilio gwlad a thre'

llan a llundain
Image caption Llanuwchllyn a Llundain: Sut mae rhannu'r Efengyl mewn dwy ardal mor wahanol?

Dau weinidog, dwy ofalaeth a dwy ardal tra gwahanol. Beth yw'r heriau o fugeilio yn Llanuwchllyn yng nghefn gwlad Sir Feirionnydd, a bod yn fugail ar eglwys yng nghanol Llundain?

Dyw hi ddim yn gyfrinach bod yna brinder gweinidogion yng Nghymru ar hyn o bryd ac, o ganlyniad, mae maint gofalaethau, yn aml, yn gorfod ehangu.

Dyna ydi'r her sydd yn wynebu'r Parchedig Carwyn Siddall, gweinidog gyda'r Annibynwyr ym Mro Llanuwchllyn a'r Cylch. Mae hi'n ofalaeth sy'n cynnwys eglwysi o dri enwad ymneilltuol gwahanol, yn ymestyn o Lanuwchllyn a Chynllwyd i Rosygwaliau.

Ar y llaw arall, mae Rob Nicholls wedi gadael ei swydd gyda BBC Radio Cymru yn ddiweddar, i fod yn weinidog ar Eglwys Gymraeg Canol Llundain.

Meddai Carwyn Siddall, sy'n wreiddiol o Ynys Môn: "Gofalaeth wledig ydy hi, gyda nifer fawr o'r aelodau yn amaethwyr. Yn sicr mae'n ardal gyfoethog iawn o ran diwylliant a'r iaith Gymraeg, gyda'r gymuned yn un clòs iawn o ran natur.

"Un fantais o weinidogaethu mewn ardal wledig fel hon yw bod pawb yn adnabod ei gilydd, a chysylltiadau teuluol rhwng trigolion y fro yn amlwg iawn. Rhywbeth arall manteisiol yw ei bod yn ofalaeth bro, gyda phob cynulleidfa ym mhentref Llanuwchllyn yn cyd-addoli pob Sul."

Image caption Y Parchedig Carwyn Siddall

Mae Rob Nicholls yn adnabyddus i eisteddfotwyr fel beirniad cerdd ac arweinydd corau. Mae'n rhoi'r gorau i arwain Côr Meibion Taf yng Nghaerdydd er mwyn ymgymryd â'i ddyletswyddau newydd:

"Daeth Eglwys Gymraeg Canol Llundain i fodolaeth yn 2006 pan unodd Eglwys y Bedyddwyr Castle Street ac Eglwysi Annibynnol King's Cross a Radnor Walk. Eglwys Gymraeg yw hi ger ardal brysur Oxford Circus.

"Mae'r iaith Gymraeg a thraddodiadau a diwylliant Cymru yn bwysig iawn iddi. Fodd bynnag, mae'n bwysig hefyd ei bod yn eglwys gynwysiedig, felly mae'r gwasanaethau yn ddwyieithog."

Gofalaethau ar wasgar

Mae gofalaeth Carwyn Siddall yn un eang ac yn golygu cryn tipyn o deithio ond 'falle ddim cymaint o gur pen ac yw hi i Rob Nicholls, sydd ag aelodau yn byw ar wasgar, mor bell â gwahanol begynnau traffordd yr M25 sy'n amgylchynu Llundain:

"Un o ystyriaethau amlycaf Eglwys ynghanol dinas yw'r ffaith bod yr aelodaeth yn wasgaredig dros ardal eang. Rwy'n ymwybodol iawn o'r problemau sy'n gallu codi o fewn dinas maint Caerdydd, ond yn sylweddoli bod Llundain yn fwy o lawer!

"Mae'r gwaith a'r dyletswydd o fugeilio praidd gwasgaredig yn bwysicach fyth mewn dinas fel Llundain, a byddwn yn sicrhau, er yr anawsterau, bod ymweld â'r aelodau yn hanfodol."

Image caption Rob Nicholls

Cryfder y gymdeithas glos

Mae Carwyn Siddall yn credu bod natur glos y gymdeithas yn ardal Llanuwchllyn yn fodd o hwyluso'r gwaith bugeiliol:

"Mae llawer iawn o fy amser yn mynd ar ymweld â'r aelodau, boed hynny ar eu haelwydydd, mewn cartrefi gofal neu yn yr ysbyty.

"I mi, dyma un o freintiau'r weinidogaeth, sef cael bugeilio pobl ar wahanol achlysuron mewn bywyd, cynnig cysur a gobaith yr Efengyl iddyn nhw yng nghanol eu sefyllfaoedd, a bod o gymorth iddyn nhw yn ôl y galw.

"Yn naturiol, gall ymweld â phawb yn rheolaidd fod yn heriol oherwydd natur wledig yr ofalaeth, a chan fod nifer o'r aelodau yn gweithio yn ystod y dydd.

"Ond wedi dweud hynny, cryfder cymdeithas wledig a chlòs yw bod pawb yn cynorthwyo ei gilydd, gyda nifer o swyddogion ac aelodau'r ofalaeth yn fy nghynorthwyo gyda'r agwedd fugeiliol, a hynny'n gwbl naturiol gan eu bod hefyd yn gymdogion a chyfeillion."

Technoleg newydd a'r Efengyl

I Rob Nicholls, oherwydd natur wasgaredig ac eang ei ofalaeth, mae'n awyddus i fanteisio ar y gwefannau cymdeithasol i ledaenu'r Efengyl:

"Mae'n bwysig i sicrhau bod ymwelwyr o Gymru a thramor yn gwybod am fodolaeth, lleoliad a hanes Eglwys Gymraeg Canol Llundain, a cheisio denu unrhyw ymwelwyr i ymuno yn yr oedfaon amrywiol.

"Rwy'n awyddus iawn i ddatblygu'r ochr "dechnegol" o gyfathrebu a chysylltu gyda chyd-aelodau, cyd-Gymry yn Llundain a thu hwnt gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter a gwefan yr Eglwys.

"Yn ymarferol hefyd, rwy'n awyddus i ail-sefydlu Oedfa'r Hwyr am 18:00. Credaf yn gryf fod potensial i gynnig rhywbeth i Gymry'r ddinas ar yr adeg yma o'r dydd.

"Hefyd, rwyf am sefydlu cyfarfod defosiynol/cymdeithasol yng nghanol yr wythnos am 12:00 ar ddydd Mercher."

Er bod gofalaeth Carwyn Siddall yn un eang, mae'n cydnabod bod yna fanteision mewn ardal wledig i gymharu â'r dalgylch eang y bydd Rob yn ei wasanaethu yn Llundain:

"Wrth edrych ar fywyd yr ofalaeth, rydym yn ofalaeth weithgar iawn, gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal, fel Ysgol Sul y Plant, grŵp archwilio ffydd ar gyfer ein hieuenctid, clwb cinio a chymdeithasu ar gyfer pobl hŷn, a nifer o weithgareddau ychwanegol.

"Yn sicr, mae'r elfen o gymdeithas glòs yn treiddio'n gwbl naturiol i fywyd yr ofalaeth, gyda phawb yn gwneud eu rhan."

Eglwys 'fyw'

Wrth iddo ddechrau ar ei alwedigaeth newydd mae Rob Nicholls yn ffyddiog iawn am ddyfodol Eglwys Gymraeg Llundain i'r Cymry Cymraeg ac am weld cymaint o bobl yn cyd-addoli â phosib hyd yn oed os nad ydyn nhw yn gallu deall Cymraeg.

"Mae'n eglwys 'fyw' sydd wedi gweld cynnydd yn nifer yr aelodau a'r ffrindiau sy'n dod yno i addoli. Mae'r aelodau yn chwarae rhan weithredol ym mywyd yr Eglwys trwy arwain yr addoliad a chyfrannu i'r gweithgareddau cymdeithasol.

"Mae 'na fwrlwm ynglŷn â'r lle sy'n argoeli'n dda am ddyfodol yr Eglwys.

"Rwy'n deall natur a'r problemau a chyfleoedd mae gwasanaethau dwyieithog yn eu cynnig. Roedd capeli Penclawdd, fy mhentref genedigol, wedi llwyddo i feithrin a chynnal oedfaon dwyieithog ers nifer o flynyddoedd.

"Ysgrifennodd un o gyn-weinidogion Y Tabernacl, Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym Mhenclawdd, fel hyn:

'Penclawdd stands where the two languages, like two seas, meet and produce a current, over which it is possible for the discerning preacher to successfully sail'."

Mae Carwyn Siddall yn dymuno yn dda i Rob Nicholls ar ddechrau ei weinidogaeth ac mae'n credu bod yna fanteision i'w cael mewn ardal wasgaredig enfawr fel Llundain:

"Mewn ardal wledig, rhaid cofio bod pob gweithgaredd cymdeithasol yn dibynnu ar gefnogaeth a chymorth yr un bobl, a rhaid yw bod yn wyliadwrus nad oes gorlwytho'n digwydd ar y bobl hynny.

"Dyna, dybiwn i, yw mantais gofalaeth fwy trefol a dinesig, sef bod mwy o bobl i gynorthwyo, a phobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol."

Image caption Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, un o eglwysi y Parchedig Carwyn Siddall ac Eglwys Gymraeg Canol Llundain, sydd dan ofal Rob Nicholls