S4C: Mwy o ail-ddarlledu a llai o raglenni plant?

S4C sign

Gallai S4C cael ei gorfodi i ail-ddarlledu mwy o raglenni a chynhyrchu llai o raglenni i blant os ydy ei chyllideb yn cael ei thorri eto.

Mewn llythyr at Aelodau'r Cynulliad mae'r Sianel yn rhestru canlyniadau posibl fyddai'n digwydd o achos mwy o doriadau cyllid.

Ddydd Mercher roedd y Sianel yn cyflwyno eu tystiolaeth i bwyllgor diwylliant y cynulliad sy'n cynnal ymchwiliad i arolwg siarter y BBC.

Yn ôl prif weithredwr S4C, Ian Jones, mae'n bosib y byddai rhaid cwtogi ar raglenni drama, rhaglenni dogfen a gwasanaethau ar-lein, gan "israddio gwasanaeth cyhoeddus S4C".

Hefyd, meddai, fe allai rhaglenni gwreiddiol i blant gael eu colli gyda mwy yn cael eu prynu a'u trosleisio i'r Gymraeg, yn ôl llythyr S4C.

'Tegwch'

"Mae angen am degwch, a thecwch o'n rhan ni yw ystyried y 36% o doriadau sydd wedi eu gwneud hyd yn hyn - dyw tegwch ddim yn golygu o heddiw ymlaen," meddai Mr Jones wrth aelodau'r pwyllgor.

Mae S4C hefyd yn dweud y gallai mwy o doriadau olygu bod y sianel yn dibynnu'n fwy helaeth ar ail-ddarlledu rhaglenni.

Mae ail-ddarllediadau eisoes yn cyfri am 57% o'i hallbwn.

Bu cynrychiolwyr undebau BECTU a'r NUJ hefyd yn rhoi tystiolaeth gerbron y pwyllgor.

Dywedodd Paul Siegert o undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, y gallai toriadau i gyllid y BBC olygu diwedd S4C, yn ogystal â gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar radio ac arlein.

£75m

Mae'r rhan fwyaf o gyllid S4C - tua £75m, neu 90% - yn dod o ffi drwydded y BBC.

Mae tua 8% yn dod gan y llywodraeth a'r gweddill o hysbysebu a ffynonellau masnachol.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol, ac mae hyn yn cynnwys S4C."