Cymru'n disgyn i'r 15fed safle ar restr detholion Fifa

Cymru Image copyright Getty Images

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi disgyn i safle rhif 15 yn rhestr diweddaraf detholion Fifa.

Roedd carfan Chris Coleman wedi codi i'r wythfed safle ddechrau mis Hydref - y safle uchaf i Gymru ei gyrraedd erioed.

Cafodd y rhestr ddiweddaraf ei gyhoeddi ar ôl i Gymru golli i Bosnia-Herzegovina a threchu Andorra yn eu hymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc.

Gwlad Belg sydd bellach ar frig y rhestr, gyda'r Almaen yn yr ail safle a'r Ariannin yn drydydd.

Ond gyda Chymru wedi llwyddo rowndiau terfynol Euro 2016 yn barod, ychydig iawn fydd yn poeni gormod am fod yn safle 15 yn y byd.

Gyda'r gwaith caled wedi'i gwblhau, gall Cymru edrych ymlaen yn eiddgar at Ffrainc yr haf nesaf.