Hen fâs o China yn gwerthu am grocbris

Fas Image copyright Peter Bolter/Wales News Service

Mae hen fâs oedd wedi ei phrisio am £150 wedi rhyfeddu prynwyr mewn ocsiwn yng Nghaerfyrddin ar ôl iddi gael ei gwerthu am £114,500.

Roedd y fâs, sy'n wreiddiol o China, yng nghanol brwydr ryngwladol rhwng prynwyr yn yr ocsiwn, gyda'r enillwr yn cynnig dros 700 gwaith yr amcan bris am y llestr.

Er ei fod yn dangos ei oed, roedd arbenigwyr wedi sylwi ar bwysigrwydd y llestr pan aeth ar werth.

Roedd yn cael ei disgrifio fel jwg ar gyfer gwin yn ystod cyfnod teyrnasiad Quing yn China, ac mae llestri o'r fath yn cael eu trysori gan gasglwyr.

Image copyright Peter Bolter/Wales News Service

Casglwr

Mae'n debyg bod y fâs yn rhan o gasgliad seramig o lestri o China oedd yn cael ei werthu gan deulu casglwr oedd wedi marw.

Fe aeth hi'n gystadleuaeth yn ystod yr ocsiwn rhwng prynwr ar y we oedd yn China, a gwerthwr creiriau hynafol o ganolbarth Lloegr.

Ar ddiwedd y gwerthu fe wnaeth pawb yn yr arwerthiant glapio o achos y canlyniad.

Dywedodd yr arwerthwr Nigel Hodson o gwmni arwerthiant Peter Francis fod y llestr wedi cael ei werthu fel rhan o gasgliad ehangach gan deulu yr oedd yn ei adnabod.

"Dyma'r eitem ddrytaf yr ydw i erioed wedi ei werthu," meddai. "Mae'n ganlyniad gwych. Doedden ni ddim yn disgwyl dim byd fel hyn."

Image copyright Peter Bolter/Wales News Service

'Uchelgeisiol'

Dywedodd Kevin Dancer, 49 oed, sydd yn gasglwr o Gaerdydd, ei fod yn credu bod yr amcan bris ychydig yn "obeithiol" - a doedd o ddim yn credu'r pris terfynol.

"O edrych ar y fâs roedd nam bychan arni, felly roeddwn i'n credu bod y pris gwreiddiol o £150 i £200 yn uchelgeisiol.

"Pan ddechreuodd y pris gynyddu fy argraff gyntaf oedd bod botwm rhywun yn sownd am fod y pris yn saethu i fyny.

"Mae'n braf gweld rhywbeth fel hyn yn digwydd. Dyw e ddim yn digwydd pob dydd pan mae peth fel hyn yn pasio drwy ocsiwn bychan am y math yna o arian."

Image copyright Wales News Service
Image caption Mae'n debyg bod y llestr yn deillio o gyfnod rhwng 1722 a 1735