Saith Diwrnod

Catrin Beard

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru:

Ers dyddiau cynharaf y wasg, mae papurau newydd a chylchgronau wedi cynnig cyfle i bobl fynegi barn, anghytuno a phregethu, drwy gyhoeddi llythyrau eu darllenwyr. Efallai fod llai o ohebu yn digwydd yn oes y blogiau a Twitter, ond mae sawl llythyr digon plaen eu mynegiant wedi ymddangos yn y wasg Gymraeg yr wythnos hon.

Peth digon digyffro yw ymweld â llyfrgell fel arfer, ond ar derfyn ymweliad â llyfrgell Dolgellau yr wythnos ddiwethaf, rhoddwyd i David Elwyn Lewis yn ddigais, ddogfen swmpus gyda'r teitl 'Amser i ddweud eich dweud … Her Gwynedd'.

Mewn llythyr yn Golwg, dywed Mr Lewis ei bod yn her anferthol darllen y ddogfen amwys hon, y mae'n ei galw'n sothach eangfrydig gwleidyddol gywir.

Hwyrach ei fod yn hen ffasiwn, ond roedd yn tybio eich bod yn achlysurol ethol Gynghorwyr er mwyn iddynt gymryd penderfyniadau ar eich rhan.

Yn ôl Mr Lewis, y ffaith moel sy'n wynebu'r Cyngor yw bod angen torri ar y gwariant, felly da chi, dywed, torrwch y gwariant yn hytrach na gwastraffu amser, arian a phapur ar gyhoeddiadau diflas.

Un gair bach

Un gair bach, neu'r defnydd o un gair bach sydd wedi gwylltio Gareth Rowlands o Fachynlleth. Mae'n amlwg, dywed yn ei lythyr yntau Golwg, bod y gair 'ardal' yn Gymraeg bellach yn cael ei ddefnyddio yn yr un modd â'r gair 'area' yn Saesneg.

Ymmm, ydi am wn i…

Ond pwynt Mr Rowlands yw nad yw pobl yn ystyried teithi'r iaith ac ystyron gwahanol.

O, wela i…

Image copyright Getty Images
Image caption 'Ardal' y dacl?

Mae cwmpas eang i'r defnydd o 'area' - 'area of the room' ac 'area of the world' ond mae 'ardal' yn y Gymraeg yn gyfyngedig i 'district', cylch, bro. Serch hynny gwelwn arwyddion fel 'ardal aros' neu 'ardal cotiau' a'r hen ffefryn 'ardal y dacl' yn merwino'r clustiau.

I Mr Rowlands, mae hyn yn dangos ein bod yn slaf i'r iaith Saesneg ac i feddylfryd y Sais, a dyma, mae'n ymddangos, yw dyfodol yr iaith, derbyn idiomau ac ystyron yr iaith Saesneg yn ddi-gwestiwn, gan adael bratiaith, heb werth ei hachub.

'Cryfhau'r bourgeoisie'

Gresynu at anwybodaeth wrth ddewis geiriau mae Richard Glyn Roberts hefyd yn Barn. Mae Mr Roberts yn anhapus â thrafodaeth am y gair Cymraeg cywir am 'Enlightenment', ac ai 'Ymoleuad' ynteu 'Goleuedigaeth' yw'r cyfieithiad gorau o'r Almaeneg gwreiddiol.

Dwyf i ddim yn siŵr a wyf i'n dilyn ei ddadl yn llwyr, sydd efallai'n cadarnhau ei honiad bod tuedd yn ein cylchoedd ysgolheigaidd brodorol trefedigaethedig i ddyrchafu cyffredinedd yn norm ac amherthnasedd yn rhinwedd a thrwy hynny ymdrechu ar bob gafael i roi caead ar biser athrylith.

Ac ar y trywydd hwnnw, yn ôl llythyr Martin Llewelyn Williams yn y Cymro, mae gan Gymru broblem hanesyddol o golli gormod o oreugwyr i Loegr. Bu Owain Glyndŵr yn fethiant: ni lwyddodd i ddelifro dwy brifysgol. Pe bai wedi bod yn fuddugoliaethus yna efallai y byddai gan Gymru ddwy brifysgol heddiw a fyddai'n gallu cystadlu efo St Andrews yn yr Alban o ran aeddfedrwydd, enw, statws a bri.

Dyw hi'n ddim syndod i Mr Williams fod gan yr Alban heddiw intelligentsia mwy hyderus a niferus na ni'r Cymry. Yn ei lythyr, mae'n galw am fuddsoddi yn y dyfodol a'r hirdymor er mwyn gwella rhagolygon ein gwlad mewn sawl ffordd. Dylid ceisio cynyddu a chryfhau'r bourgeoisie Cymraeg yma yn ein gwlad.

Ar ôl yr holl ddwrdio a phregethu yna, mae bron iawn yn rhyddhad cael troi at wefan Cymru Fyw ac edrych ar luniau twp o enwogion ein cenedl gyda mwstash du wedi'i ychwanegu atyn nhw ar gyfer mis Tashwedd.

Hmm, beth oedd hwnna am roi caead ar biser athrylith?