Cwest: 'Methu credu yr hun roeddwn yn ei weld'

Pte Gavin Williams Image copyright PA
Image caption Roedd y Preifat Gavin Williams yn aelod o Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol

Clywodd cwest fod nifer o bobl wedi bod yn dyst wrth i filwr ifanc gael ei gosbi yn answyddogol ar y diwrnod y bu farw o orboethi ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn.

Fe wnaeth y preifat Gavin Williams, 22 oed o Hengoed, Caerffili, farw ar ôl i'w galon fethu ar 3 Gorffennaf 2006 ym marics Lucknow, Wiltshire.

Roedd yr aelod o'r Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol, wedi ei orfodi i wneud ymarfer corff dwys fel cosb am gamymddwyn.

Dywedodd un gwas sifil "doeddwn i ddim yn credu'r hyn roeddwn yn ei weld."

Clywodd y cwest yng Nghaersallog - Salisbury - fod y preifat Williams yn cael ei gosbi gan dri swyddog o'r fyddin cyn iddo gwyno o boenau i'w stumog.

Yn ddiweddarach fe gwympodd i'r llawr, a bu farw yn yr ysbyty.

Yn 2008 cafwyd y tri swyddog wnaeth ei gosbi - Sarjant Russell Price, 45 oed, Sarjant Paul Blake, 37 oed, a Corporal John Edwards, 42 oed - yn ddieuog o ddynladdiad.

Dywedodd y lefftenant corporal Christopher Elshaw, oedd ar ddyletswydd, iddo weld preifat Williams y diwrnod hwnnw, gyda rhywun yn gweiddi arno.

'Poen'

Pan welodd o eto yn ddiweddarach dywedodd ei fod yn edrych fel ei fod wedi anafu.

"Roedd o wedi plygu gyda'i fraich am ei fol, roedd yn edrych yn anghyfforddus."

"Roedd ganddo wyneb coch - roedd yn anadlu'n drwm. Roedd o'n edrych fel ei fod wedi bod yn cymryd rhan mewn dril, roedd o'n boeth ac yn chwyslyd. "

Dywedodd gwas sifil, Arthur Biershenk, nad oedd wedi gweld y math yna o ddril yn y barics o'r blaen, yn Lucknow nac mewn unrhyw le arall.

Dywedodd Dawn Harrsion, gwas sifil arall:

"Roedd yn fy nharo i ei bod yn ddiwrnod poeth ofnadwy i wneud rhywbeth fel hyn.

"Doeddwn methu credu yr hun roeddwn yn ei weld."

Mae'r cwest yn parhau.

Straeon perthnasol