Pro12: Leinster 19-15 Scarlets

Hadleigh Parkes Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Hadleigh Parkes yn croesi i'r Scarlets

Mae'r Scarlets wedi colli eu record 100% ar ôl colli i Leinster yn Nulyn.

Fe wnaeth Hadleigh Parkes a Gareth Owen groesi i'r Scarlets yn yr hanner cyntaf gan roi'r ymwelwyr ar y blaen o 15-9 ar yr egwyl.

Daeth pwyntiau Leinster o dair cic gosb, Ian Madigan

Y Gwyddelod oedd yn rheoli'r ail hanner, ac fe aethant ar y blaen ar ôl cais Mike Ross, a throsiad Madigan.