Pro12: Gleision 30-35 Glasgow Warriors

Wy Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd Glasgow i frwydro'n ôl a chipio buddugoliaeth yn erbyn Gleision Caerdydd brynhawn Sadwrn mewn gêm agos a chorfforol yng nghystadleuaeth y Pro12.

Roedd y Gleision ar y blaen o 17-15 ar yr hanner wedi cais gan Gavin Evans a chicio Rhys Patchell.

Llwyddodd Leone Nakarawa, Taqele Naiyaravoro, Ryan Grant a Jonny Gray i groesi'r llinell gais i'r ymwelwyr.

Er i gicio Patchell gadw'r Gleision yn y gêm, Glasgow oedd yn fuddugol ar y diwedd, ac fe lwyddodd yr Albanwyr i hawlio pwynt bonws hefyd.