Norwich 1-0 Abertawe

Abertawe Image copyright Getty Images

Mae Abertawe wedi colli eu pumed gêm mewn wyth ar ôl colli i ffwrdd yn Norwich bnawn Sadwrn.

Roedd gôl Jonny Howson yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau'r tri phwynt i'r tîm cartref yn Carrow Road.

Fe ddaeth Abertawe yn agos i sgorio drwy daro'r traws o ganlyniad i ergyd Gylfi Sigurdsson o groesiad Wayne Routledge.

Ar ôl bod yn y pedwerydd safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair ddiwedd mis Awst, mae rhediad siomedig yr Elyrch yn parhau.