Mesur Cymru yn creu 'rhwystrau diangen' medd Carwyn Jones

Bae
Image caption Mae mesur drafft Cymru wedi arwain at anghytuno rhwng Llywodraeth Prydain a Chymru

Mae arweinwyr y pleidiau yng Nghymru wedi dweud wrth Aelodau Seneddol bod pryderon am y cynllun diweddaraf i roi mwy o bwerau i Gymru.

Daeth Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol at ei gilydd ddydd Llun i graffu ar y cynnig o bwerau newydd.

Ddiwedd y prynhawn, fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y gallai'r system newydd olygu fod pob deddfwriaeth yn y dyfodol yn gorfod mynd yr holl ffordd i'r Goruchaf Lys.

Fe ychwanegodd fod "ffordd hir i fynd eto" cyn cytuno ar setliad hirdymor.

'Rhwystrau di-angen'

Yn ôl Llywodraeth y DU, nod mesur drafft Cymru yw rhoi mwy o rym i'r Cynulliad, gan gynnwys mwy o gyfrifoldebau dros ynni, trafnidiaeth ac etholiadau'r sefydliad.

Ond mae'r cynigion wedi arwain at gecru chwyrn rhwng y llywodraethau ar ddau ben yr M4.

Image caption Mae Carwyn Jones wedi cymharu'r cynigion gyda "hen gar rhydlyd"

Dywedodd Carwyn Jones: "Y peth anodd yw... mae'r rhain yn rhwystrau newydd, diangen ar y ffordd mae'r Cynulliad yn gweithredu ei bwerau ar ran pobl Cymru...

"Mae 'na risg y gallai bob mesur fynd i'r Goruchaf Lys. Does neb eisiau hyn, yn amlwg, ac mae angen osgoi hynny."

Fe ychwanegodd fod y rhwystrau'n golygu na all pa bynnag blaid fydd wrth y llyw ar ôl etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesa' gyflwyno'r ymrwymiadau yn eu maniffesto.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, y gall mesur drafft Cymru "fynd yn ôl ar gytundebau blaenorol".

"Mae'r ysgrifennydd gwladol wedi dweud ei fod eisiau egluro'r sefyllfa ond fy nadl i yw y gall wneud y sefyllfa'n fwy cymhleth," meddai.

Colli tir yn 'anffodus'

Image caption Andrew RT Davies

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies y byddai'n "anffodus" pe bai'r Cynulliad yn "colli tir yr oedden ni'n deall oedd wedi ei ddatganoli ac yn dir i'r Cynulliad".

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams yn feirniadol o'r ymgais i symleiddio'r setliad datganoli.

"Pan oedden ni'n dadlau dros y model o gadw pwerau roedden ni'n bod yn rhy syml am sut y buasai'n cael ei ddatblygu," meddai.

Ychwanegodd nad oedd y model wedi ei ddefnyddio i roi'r mwyafrif o bwerau i Gaerdydd, ond yn hytrach "i ofyn wrth adrannau yn Whitehall beth ydyn nhw am gadw eu gafael arno".

Dadansoddiad Aled ap Dafydd, Gohebydd Gwleidyddol

Ydi'r hyn gafodd ei argymell gan Silk yn cael ei adlewyrchu yn "y cynnig" o ran rhagor o bwerau i'r Cynulliad?

Na medd arweinwyr y gwrthbleidiau, er y gellir gwahaniaethu rhwng agwedd y tri.

Dau gam ymlaen a thri yn ôl ydi Mesur Cymru medd Leanne Wood ac mi gytunodd Kirsty Williams gyda hi y dylid mabwysiadu argymhellion Silk yn llawn.

Galwodd Andrew RT Davies am ddatganoli'r dreth ar deithiau awyr ond yn fwy arwyddocaol apeliodd arweinydd y Ceidwadwyr am eglurder "gan nad oes neb am weld heriau yn y llysoedd". Mewn geiriau eraill, mae deddf sydd i fod i symleiddio ein dealltwriaeth o'r drefn ddatganoledig yn bygwth ei gymhlethu.

Pan fydd y ddeddf newydd yn gweld golau dydd, peidiwch a synnu o weld mwy o chwaraewyr yn rheoli'r gêm. Gyda mwy o gyfrifoldebau a'r angen i ddyfarnu gwaith y llywodraeth gellir dadlau dros chwyddo maint y Cynulliad i gynnwys 100 o aelodau yn ôl Leanne Wood.

'Nonsens llwyr'

Pryder Llywodraeth Cymru ydi y gallai'r newidiadau wanhau yn hytrach na chryfhau'r Cynulliad. Mi fyddai gofyn ar weinidogion Llywodraeth Prydain i roi sêl bendith ar rai darnau o ddeddfwriaeth cyn iddyn nhw ddod yn gyfraith gwlad.

Mae'r cynigion fel "hen gar rhydlyd sydd wedi ei wisgo fel car newydd", meddai Carwyn Jones.

Ond "nonsens llwyr" ydi hynny, meddai Swyddfa Cymru yn San Steffan, gyda Stephen Crabb, yr Ysgrifennydd Gwladol, yn dweud y bydd y mesur yn "cryfhau pwerau'r Cynulliad".

Mae Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, hefyd yn credu y byddai'r cynlluniau yn gam yn ôl o ran datganoli.