Cwpan yr FA : Brackley Town 2-2 Casnewydd

FA

Cafodd Casnewydd gêm gyfartal oddi cartref yng Nghwpan FA Lloegr brynhawn dydd Sul, gyda'r sgor yn 2-2 ar y diwedd.

Ar yr hanner roedd Casnewydd ddwy gôl ar y blaen wedi goliau gan Lenell John-Lewis wedi 27 munud a Scott Bennett ychydig cyn hanner amser.

Ond fe frwydrodd y tîm cartref yn ôl gan sicrhau gêm gyfartal yn yr eiliadau olaf.