Mam o Abertawe yn diweddu eu bywyd yn y Swistir

Tara O'Reilly
Image caption Tara O'Reilly

Mae dynes o Abertawe oedd yn dioddef o glefyd motor niwron wedi dod â'i bywyd i ben yng nghanolfan Dignitas yn y Swistir.

Fe gafodd Jackie Baker, 59 o Dreforys, wybod ei bod yn dioddef o'r cyflwr fis Chwefror diwethaf.

Roedd ei merched Tara O'Reilly a Rose Baker wedi dechrau casglu arian ar gyfer cronfa i anfon eu mam i'r ganolfan.

Mae Ms O'Reilly wedi cadarnhau i'w mam deithio i'r Swistir yr wythnos diwethaf.

Ym mis Gorffennaf fe ddywedodd Ms O'Reilly wrth BBC Cymru fod y teulu wedi bod yn meddwl yn hir ac yn ddwys am ddymuniad eu mam.

Image caption Tara O'Reilly

Dywedodd Ms O'Reilly: "Fe wnaeth fy mam siarad â fi a fy chware am eu dymuniad a dywedodd pe bai'r cyflwr yn gwaethygu, fel y gwnaeth, yna roedd am fynd i'r Swistir.

Yn ddiweddarach bu'n rhaid i Ms O'Reilly ganslo gweithgarwch codi arian gan ddweud fod yr heddlu wedi ei rhybuddio y gallai wynebu cyhuddiadau troseddol.

Straeon perthnasol