Cwestiwn Weston Super Mare

Os ydych chi'n sefyll ar risiau'r Senedd a syllu i gyfeiriad caffis a thafarndai ploryn pensaernïol Cei'r Forforwyn fe sylwch ar ddau strwythur pren yn sefyll yng nghanol y dŵr. Dyw e ddim yn amlwg beth yw neu oedd pwrpas y strwythurau. Mae'r ddau signal rheilffordd hen ffasiwn sy'n sefyll arnynt gyda'u breichiau wedi eu cloi yn ychwanegu at y dirgelwch.

Daw'r unig gliw i bwrpas y tyrrau yma o enw adeilad cyfagos y Pierhead sy'n un o adeiladau'r Cynulliad y dyddiau hyn yn ogystal â bod yn llechfan i'n cyfaill Richard Wyn Jones.

Roedd y tyrrau pren yn rhan o strwythur Pier Caerdydd - dau bontŵn lle'r oedd modd ers talwm dal y fferi i Benarth a Weston neu long bleser i drefi glan mor Mor Hafren. Rheoli'r traffig oedd pwrpas y ddau signal gyda'r cychod yn disgwyl am arwydd bod y llanw'n ddigon uchel i allu angori wrth y pier.

Fe ddaeth y rhan fwyaf o'r gwasanaethau hynny i ben hanner canrif yn ôl ac mae eu tranc yn enghraifft berffaith o'r ffordd y mae deddfwriaeth yn gallu effeithio ar ein bywydau mewn ffyrdd cwbwl annisgwyl.

Go brin fod ffawd fferi Weston wedi croesi meddyliau aelodau San Steffan wrth iddyn nhw drafod y Mesur Trwyddedu yn 1961. O ganlyniad i'r mesur hwnnw roedd modd i dafarndai Cymru agor ar y Sul am y tro cyntaf ers y 1880au pe bai na fwyafrif o blaid caniatau hynny mewn refferendwm lleol.

Doedd e ddim yn syndod efallai bod coliars a gweithwyr dur sychedig Morgannwg ymhlith y cyntaf i fanteisio ar y rhyddid newydd ac o fewn blwyddyn neu ddwy roedd fferi Weston wedi diflannu a'r signals wedi eu cloi am byth i nodi bod y pier wedi ei gau. Heb y miloedd oedd yn croesi Mor Hafren ar gyfer eu slochiad sabothol doedd dim modd i'r busnes barhau.

Cefais fy atgoffa o ffawd y fferi wrth wrando ar Angus Robertson ar y radio yn ceisio cyfiawnhau penderfyniad aelodau seneddol yr SNP i bleidleisio yn erbyn mesur i lacio'r cyfyngiadau ar agor siopau ar y Sul yng Nghymru a Lloegr.

Dadl Mr Robertson oedd y gallasai'r llacio yna gael effaith ar amodau gwaith gweithwyr siop yn yr Alban er bod y pwnc yn un sydd wedi ei lwyr ddatganoli i Gaeredin. Roedd ei dadl yn ymddangos yn un weddol o denau i mi ond nid dyna sy'n ddiddorol yn fan hyn.

Hwn yw'r union fath o fesur y lluniwyd rheolau EVEL i ddelio ag e. Fel mae'n digwydd doedd y rheolau hynny ddim mewn grym pan gyflwynwyd y mesur yma gyntaf. Oherwydd hynny dyw'r Llefarydd ddim wedi dyfarnu a yw hwn yn fesur lle ddylai'r rheolau newydd fod yn weithredol. Nid dyna'r pwynt.

Hyd yn oed pe bai'r Llefarydd wedi clustnodi'r mesur fel un 'Cymru a Lloegr yn unig' fe fyddai gan Mr Robertson a'i ddilynwyr berffaith hawl i rwystro'r mesur ar yr ail ddarlleniad - cyn iddo gyrraedd y rhan o'r broses ddeddfwriaethol lle mae 'na gyfyngiadau ar hawliau pleidleisio aelodau seneddol yr Alban.

Mae'n debyg eich bod yn gyfarwydd â chwestiwn enwog Tam Dayell - y 'West Lothian question' ond dyma i chi un arall y 'Weston Super Mare question', os mynnwch chi. Dyma fe.

Beth yw pwynt EVEL os ydy aelodau'r Alban yn gallu defnyddio 'effeithiau annisgwyl' fel cyfiawnhad dros drechu deddfwriaeth cyn iddi hyd yn oed cyrraedd y Siambr Seisnig newydd?

Atebion ar gerdyn post, os gwelwch yn dda.