Aberth ac annibyniaeth

Baneri Cymru a Phwyl Image copyright Polskie Spotkania w Walii

Wrth i bobl ar hyd a lled Cymru gofio Dydd y Cadoediad ar 11 Tachwedd, bydd gan y Pwylaid sy'n byw yma resymau eraill hefyd dros nodi'r dyddiad.

Aeth Siôn Pennar i gyfarfod rhai o aelodau'r gymuned Bwylaidd yn y de-ddwyrain ar ran Cymru Fyw.


Mewn cornel dawel, gysgodol ym mhen pellaf y Fynwent Orllewinol yn Nhrelái, Caerdydd, mae gwrychoedd yn cuddio pedair rhes o feddi.

Beddi lluoedd y Gymanwlad sydd yno - dynion o bedwar ban fu'n brwydro dros Brydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn eu mysg, mae dau Bwyliad a'r dyddiadau marwolaeth yw 1942 a 1945.

Yma mae Paweł Zawistowski, sy'n byw yng Nghaerffili, yn dod ar 11 Tachwedd. Mae'n gyfrifol am sefydliad Pwylaidd yn y dref a thrip i'r fynwent yw canolbwynt eu dathliadau.

"Rydyn ni'n mynd i roi blodau coch a gwyn ar feddi'r milwyr," medd Paweł. "Pan fydda' i'n mynd i'r fynwent rwy'n teimlo'n falch dros ben. Diolch i'r bobl hyn y mae Ewrop yn rhydd."

Image caption Bedd un o'r milwyr Pwylaidd fu farw yn 22 oed

Annibyniaeth

Ar 11 Tachwedd 1918 enillodd Gwlad Pwyl ei hannibyniaeth ar ôl bod dan reolaeth ymerodraethau Rwsia, Awstria a'r Almaen am fwy na chanrif.

Ond llai na 30 mlynedd wedyn roedd pethau wedi newid, gyda Gwlad Pwyl yn rhan o'r bloc Sofietaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd a chyfundrefn Gomiwnyddol mewn grym.

"Ar ôl yr Ail Ryfel Byd doedd dim hawl i ddathlu'r Dydd Annibyniaeth," medd Dr Toby Thacker o adran hanes Prifysgol Caerdydd.

Ers dymchwel y Llen Haearn mae 11 Tachwedd wedi dod yn ŵyl genedlaethol ond mae'n parhau i fod yn ddathliad dadleuol.

Yn y blynyddoedd diweddar mae gorymdeithiau grwpiau cenedlaetholgar ac asgell dde yn Warsaw wedi arwain at wrthdaro treisgar gyda'r heddlu.

"Mae dadl gythryblus oherwydd y diwrnod yng Ngwlad Pwyl," medd Dr Thacker, "dadl am beth mae'r diwrnod yn ei olygu, a pha fath o wlad mae'n ei gynrychioli."

Image copyright Polskie Spotkania w Walii
Image caption Mae Paweł a'i wraig Kasia'n cynnal gweithgareddau diwyllianol i'r gymuned Bwylaidd ac i'r Cymry sy' eisiau ymuno â nhw

'Ddim yn bell yn ôl'

Daw'r dathliad eleni wrth i bryderon gynyddu am annibyniaeth Pwyl yn sgil ymyrraeth Rwsia yn y Crimea.

Enillodd Andrzej Duda yr etholiadau arlywyddol ym mis Mai a chafodd ei blaid, Cyfraith a Chyfiawnder, fwyafrif yn etholiad Seneddol mis Hydref ar blatfform gwrth-mewnfudwyr ac ewrosgeptig.

Wrth roi blodau ar feddi'r milwyr yng Nghaerdydd, mae ofnau am annibyniaeth Gwlad Pwyl ym meddwl Paweł:

"Mae pobl yn anghywir i feddwl bod 70-80 mlynedd yn amser pell yn ôl."

Mae'n poeni am ddylanwad yr Almaen ar y wasg, a sut mae'r Pwyliaid yn cael eu portreadu.

"Mae 80% o'r wasg yng Ngwlad Pwyl yn perthyn i Almaenwyr. Yn anffodus, maen nhw'n dangos ochr waethaf Gwlad Pwyl a'r Pwyliaid."

Ond mae 'na le i obeithio. "Mae gwladgarwch a theulu yn werthoedd sylfaenol i'r llywodraeth a'r arlywydd newydd," medd Paweł.

"Mae Andrzej Duda yn ddyn gwladol go iawn, yn ddyn sydd ddim yn ofni dweud 'Na' wrth yr Almaen a Ffrainc yn Ewrop."

Image caption (O'r chwith i'r dde): Cezary Lastowski, Łukasz Hangiel a Janek Konieczny o Gymdeithas Bwylaidd Prifysgol Caerdydd

Yn y cyfamser, mae grŵp arall o Bwyliaid yn nodi'r diwrnod arbennig gyda pharti yn Cathays.

Mae Łukasz Hangiel a Cezary Lastowski, sy'n astudio economeg, a Janek Konieczny, sy'n astudio gwleidyddiaeth a hanes, yn aelodau o Gymdeithas Bwylaidd Prifysgol Caerdydd.

"Rydyn ni'n eitha' radical yn y ffordd rydyn ni'n dathlu'r diwrnod," medd Cezary. "Dwi'n teimlo bod y dathliadau yng Ngwlad Pwyl yn ddwys a lleddf."

"Hyd yn oed ymysg y gymuned Bwylaidd yma, mae'n eitha' traddodiadol," ychwanega Janek.

'System ormesol'

Mae'r myfyrwyr yn dweud eu bod yn deall pam fod nifer o bobl yn beio'r Almaen a Rwsia am broblemau hanesyddol a phresennol.

"Mae 'na deimlad na wnaethon ni ennill yr Ail Ryfel Byd - daeth un system ormesol yn lle un arall," medd Janek.

"Ond," medd Łukasz, "rydyn ni'n adnabod Almaenwyr a Rwsiaid, a felly ddim yn eu beio - yn wahanol i'n neiniau a'n teidiau."

Felly beth fydd yr arlwy yn eu parti heno?

"Karaoke a bwyd traddodiadol fel bigos, pierogi," medd Janek. "A photel o fodca yma ac acw."

Image copyright Polskie Spotkania w Walii
Image caption Gwledd yn un o gyfarfodydd y gymdeithas Bwylaidd yng Nghaerffili