Cyhuddo dyn o lofruddio Simon Bell yn Llanelli

Llofruddiaeth
Image caption Bu farw Simon Lee Bell yn dilyn digwyddiad yn Llanelli

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn 30 oed o lofruddio Simon Bell yn Llanelli.

Mae Wesley Jones yn y ddalfa a bydd yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher.

Bu farw Mr Bell, 22 oed, yn yr ysbyty wedi digwyddiad ar Stryd Dilwyn yn y dref ar 6 Tachwedd.

Mae dyn 52 oed, gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu ymchwilio.