Gwaith yn dechrau i adfer cronfa ddŵr Cwm Elan

Cwm Elan
Image caption Cronfa Garreg Ddu - un o bum cronfa yng Nghwm Elan sy'n bwydo'r bont-ddŵr

Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun gwerth miliynau o bunnoedd i sicrhau bod cronfa ddŵr gafodd ei hadeiladu yn Oes Victoria yn parhau i gyflenwi un o ddinasoedd mwyaf Lloegr.

Fe gafodd Cynllun Dŵr Cwm Elan ym Mhowys ei godi rhwng 1892 a 1906 er mwyn darparu dŵr ar gyfer Birmingham.

Mae'n parhau fel unig ffynhonnell ddŵr i dros filiwn o bobl y ddinas, ond mae'r pibellau sy'n cysylltu'r ddwy ardal angen gwaith cynnal a chadw.

Bydd y gwaith peirianyddol yn cynnwys codi pibell osgoi yng nghanolbarth Cymru.

'100 mlynedd arall'

Dywedodd Sarah-Jayne O'Kane o Gwmni Dŵr Hafren Trent: "Mae'r cynllun gwreiddiol yn wych, mae'n 100 oed ac mae dal mewn cyflwr gweddol.

"Mae angen mwy a mwy o waith cynnal a chadw - ond ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ei fod yn para am 100 mlynedd arall."

Mae'r bont-ddŵr o ganolbarth Cymru i Birmingham yn 73 milltir o hyd, ac yn cludo 320 miliwn litr o ddŵr pob dydd ar gyflymder o un filltir yr awr - taith sy'n cymryd tua thridiau.

Ar hyn o bryd dim ond pum diwrnod y flwyddyn sydd ar gael i beirianwyr ymchwilio i gyflwr y pibellau, ac mae Hafren Trent am ymestyn hynny i 50 diwrnod.

"Y drefn ar hyn o bryd yw bod y cyflenwad i Birmingham yn cael ei atal am bum diwrnod, gyda'r pibellau yn cael eu gwagio, ond yn y dyfodol bydd angen sicrhau bod mwy o amser a dyddiau ar gael ar gyfer gwaith o'r fath," meddai Ms O'Kane.

Yng Nghymru, mae'r cwmni yn bwriadu codi pibell osgoi mewn tair ardal - sef Trefyclo, Nantmel a Bleddfa ym Mhowys.

Image caption Y Gronfa ar ôl cael ei hadeiladu

Yn ôl rheolwr asedau Hafren Trent yng nghanolbarth Cymru, Noel Hughes, mae yna berthynas dda rhwng y cwmni a phobl leol.

"Yn ddiweddar roedd cyfarfodydd cyhoeddus mewn sawl ardal yma, a rhaid i mi ddweud bod pobl leol yn ymfalchïo yn y bont-ddŵr arbennig yma," meddai.

Roedd teulu Mr Hughes yn arfer byw ar dyddyn sydd bellach o dan Cronfa Craig Goch - un o bum cronfa sy'n rhan o Gynllun Dŵr Cronfeydd Elan.

"Roedd y cynllun yn 1892 yn effeithio 72 acer o dir a tua 35 eiddo, ond o'r hyn 'dwi wedi ei ddysgu roedd 'na berthynas dda rhwng pobl leol a Chorfforaeth Birmingham," meddai Mr Hughes, sydd wedi gweithio gyda Hafren Trent am 32 o flynyddoedd.

"Fe gafodd yr ysgol, y capel a'r eglwys eu hail-godi uwchben lefel y dŵr, ac fe gafodd pentref newydd ei greu ar gyfer pentref Elan."

'Rhywbeth arbennig'

Cafodd Mr Hughes ei fagu yn y pentref 'newydd' ac mae tair cenhedlaeth o'i deulu wedi gweithio ar y bont-dŵr.

"Rwyf i fy hun yn cofio Arglwydd Faer Birmingham yn dod i'r pentref bod blwyddyn, ac roedd pawb yn mwynhau'r achlysur," meddai.

"Mae'r cronfeydd a'r bibell ddŵr yn rhywbeth arbennig, mae o'n dal mewn cyflwr da, ond mae'n bwysig gwneud mwy o waith nawr fel ein bod yn ei ddiogelu."

Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau ar y bibell osgoi ym Mleddfa, ger Pilleth - safle un o frwydrau enwog Owain Glyndŵr - a'r gobaith yw y bydd y cwbl wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2019.

Image caption Bu 50,000 o bobl yn gweithio am 12 mlynedd i adeiladu'r gronfa