Gwrthdrawiad Llandudno: Dynes wedi marw yn yr ysbyty

ambiwlans

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dynes gafodd ei tharo gan fan yn Llandudno ddydd Llun wedi marw.

Bu farw'r ddynes leol 52 oed yn yr ysbyty yn Stoke ychydig ddyddiau wedi'r gwrthdrawiad.

Cafodd ei tharo am 13:30 ar 9 Tachwedd ar Ffordd Clarence.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio ac yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101.