Dau seiclwr yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Abertawe

A4118 Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4118 yn ardal Cilâ

Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng dau seiclwr a char yn Abertawe brynhawn dydd Mercher.

Digwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A4118 Heol Gŵyr yng Nghilâ am 15:55.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi anfon cerbyd ymateb cyflym a dau ambiwlans i safle'r gwrthdrawiad.

Cafodd un person anaf i'w frest ac aed ag ef i Ysbyty Treforys. Cafodd person arall ei anfon i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau i'w ben.

Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad gan Heddlu'r De, er mwyn i swyddogion allu cynnal ymchwiliad.