Swyddfeydd treth i gau ar hyd Cymru

toll Image copyright Getty Images

Bydd disgwyl i swyddogion treth sydd yn gweithio mewn swyddfeydd ar draws Cymru i symud i Gaerdydd neu ogledd orllewin Lloegr i weithio fel rhan o ad-drefnu sy'n golygu cau dros 100 o swyddfeydd yn y DU.

Dywedodd Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y bydd canolfan ranbarthol newydd yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd, gyda swyddfeydd ym Mhorthmadog, Wrecsam ag Abertawe yn cau. Mae trefniadau mewn lle yn barod i gau swyddfa'r Gwasanaeth Cyllid a Thollau ym Merthyr y flwyddyn nesaf.

Mae tua 350 o staff yn gweithio yn swyddfa Wrecsam, 300 yn Abertawe ag 20 ym Mhorthmadog. Dywedodd Gwasanaeth Cyllid a Thollau y byddai staff yn cael "ystod o opsiynau ac yn cael amser i ystyried a thrafod eu dyfodol" gyda rheolwyr. Ond dywedodd y gwasanaeth y byddai ad-drefnu yn golygu "llai o staff yn y dyfodol".

'Newidiadau'

Dywedodd Lin Homer, prif weithredwr y gwasanaeth: "Mae gan Wasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ormod o swyddfeydd drud, ynysig a hen. Mae hyn yn ei wneud yn anodd i gydweithio, moderneiddio ein dulliau o weithio, a gwneud y newidiadau sydd eu hangen i drawsnewid ein gwasanaeth i gwsmeriaid a thorri i lawr ar y lleiafrif sydd yn ceisio twyllo'r system".

Mewn ymateb am bryderon dyfodol gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, dywedodd Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi mewn datganiad:

"Mae Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi ei ymrwymo i gynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i'n cwsmeriaid ac fe fyddwn yn parhau i gynnig y gwasanaeth hwn.

"Er mwyn gwneud hyn rydym yn edrych ar ffyrdd i ymuno a chryfhau ein gwasanaeth cyfrwng Cymraeg gydag adranau eraill o'r llywodraeth. Bydd hyn yn ychwanegol i'n tîm cyfwng Cymraeg, fydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd."

Daw'r cynllun 10 mlynedd i rym wrth i'r gwasanaeth wynebu beirniadaeth am ei ganolfannau galwadau.

Cafodd record y gwasanaeth o ateb galwadau ei ddisgrifio fel "difrifol o wael" mewn cyfarfod Pwyllgor y Trysorlys yn San Steffan yn gynharach yr wythnos hon. Dim ond hanner y galwadau gafodd eu hateb yn llwyddianus rhwng Ebrill a Mehefin eleni, er bod y perfformiad wedi gwella ers hynny.

Bydd 137 o swyddfeydd yn cau o amgylch y DU. Bydd Caerdydd yn un o 13 o ganolfannau rhanbarthol newydd, gyda'r ganolfan yn agor yn y brifddinas yn 2019-20, gyda rhwng 3,500 a 3,800 o staff yn gweithio yno.

Image caption Adeilad Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn Abertawe

Staff

Byddai disgwyl i staff yn swyddfa Wrecsam symud dros y ffin i Lerpwl, ac mae BBC Cymru yn deall y byddai gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg sydd yn cael eu cynnig yn swyddfa Porthmadog yn symud i Gaerdydd.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb y PCS, Mark Serwotka: "Ddylie neb beidio â bod dan unrhyw amheuaeth y byddai'r cynnigion hyn, petai nhw'n cael eu gweithredu, yn drychineb ofnadwy i Wasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r bobl sy'n gweithio yno.

"Byddai cau cymaint â hyn o swyddfeydd yn fygythiad ofnadwy i waith Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ei wasanaeth i'r cyhoedd a bywyd y staff, ac mae'r angen am sgriwtini seneddol o'r cynllun yn ddiamheuol ac fe ddylid ei wneud ar frys."

Ymateb

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at David Cameron flwyddyn ddiwethaf yn lleisio pryderon difrifol pan gyhoeddodd Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ei benderfyniad i gau swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Bae Colwyn, Merthyr Tudful a Doc Penfro y llynedd, gan golli dros 100 o swyddi da o safon.

"Mae hyn nawr yn ergyd ddwbl, achos yr ansicrwydd i staff, bydd yn cael effaith anghyfartal ar ardal fel Porthmadog. Byddwn yn galw ar y Prif Weinidog wneud popeth o fewn ei allu i osgoi diswyddiadau gorfodol."

'Afrealistig ac anghynaladwy'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth:

"Mae cannoedd o bobl yn gweithio yn y swyddfeydd yn Wrecsam, Porthmadog ac Abertawe, a byddai'n afrealistig ac yn anghynaladwy disgwyl iddyn nhw symud i Gaerdydd - byddai hyn yn ergyd drom i economïau'r ardaloedd gwahanol ac i Gymru'n gyffredinol.

"Nid yn unig fyddai canoedd o bobl yn colli eu gwaith a'u bywoliaeth ond fe fyddai unig ganolfan Gymraeg Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cau. Byddai colli'r swyddi hyn yn ergyd drom hefyd i fusnesau lleol sydd yn dibynu ar y gweithwyr hyn i wario eu cyflogau yn yr ardal leol."

'Ergyd'

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr economi, Eluned Parrott fod y newyddion yn "ergyd fawr" i lawer o bobl yng Nghymru.

"Mae'n iawn i lywodraeth Geidwadol y DU i honni fod popeth yn iawn gan y bydd safle newydd yn agor yng Nghaerdydd, ond fydd hyn yn dda i ddim i bobl sy'n gweithio mewn safleoedd eraill ar hyd Cymru."

'Elwa'

Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies, y gallai Cymru elwa o swyddi newydd o ganlyniad i agor y ganolfan ranbarthol newydd yng Nghaerdydd.

"Bydd yn rhaid i Wasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddarbwyllo pobl fod yr ad-drenfu yn mynd i allu cynnig gwasanaeth gwell, ond fe all y newidiadau arwain at fwy o swyddi o safon uwch."