Llofruddiaeth: 'Profiad mewn lladd-dy'

Christopher May Image copyright Wales News Service
Image caption Christopher May tu allan i'r llys

Mae patholegydd wedi dweud wrth lys y Goron Caerdydd ei fod o'r farn mai rhywun gyda phrofiad o weithio mewn lladd-dy oedd wedi torri corff menyw gafodd ei llofruddio ym Mhontypridd.

Cafodd gweddillion Tracey Woodford, 47, eu darganfod yn y dre ym mis Ebrill.

Mae Christopher Nathan May, 50, yn gwadu llofruddiaeth.

Yn ôl Dr Derek James roedd y gweddillion wedi gwneud iddo feddwl bod y person oedd yn gyfrifol wedi cael "profiad o ddefnyddio cyllyll ac o dorri cyrff."

Ychwanegodd: "O'n i'n meddwl bod gan y person beth profiad o weithio mewn lladd-dy siwr o fod."

Clywodd y llys bod gan Mr May wybodaeth am dorri a pharatoi cyrff anifeiliaid ar ôl gweithio mewn siop gigydd.

Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd gweddillion Tracey Woodford eu darganfod ym mis Ebrill

Mae Mr May yn cyfadde achosi marwolaeth Ms Woodford yn ei fflat, wedi iddyn nhw gwrdd yn nhafarn y Skinny Dog ym Mhontypridd ar y 21 Ebrill.

Ond mae'n honni iddo golli rheolaeth a cheisio amddiffyn ei hun yn ystod ffrae rhwng y ddau.

Mae'r achos yn parhau.