Miloedd o gefnogwyr yn heidio i Rali GB Cymru

Rali Image copyright Getty Images
Image caption Mae 78 gyrrwr yn cystadlu yn Rali GB Cymru eleni, gan gynnwys pencampwr newydd y byd, Sébastien Ogier, a'r Cymro Elfyn Evans.

Mae disgwyl y bydd miloedd o bobl yn heidio i ogledd a chanolbarth Cymru dros y dyddiau nesaf wrth i Rali GB Cymru gael ei chynnal yn yr ardal.

Hon fydd y ras derfynol ym mhencampwriaeth y byd, ac mae'n debyg bod y rali werth £10m i economi Cymru.

Cafodd y gyrwyr gyfle i ymarfer a pharatoi eu ceir fore dydd Iau cyn yr agoriad swyddogol yn Llandudno.

Bydd tad Colin McRae, y cyn-bencampwr fu farw mewn damwain hofrennydd yn 2007, yn chwifio'r faner i agor y gystadleuaeth.

Cyfraniad

Hefyd fe fydd cyd-yrrwr McRae, y Cymro Nicky Grist, yn y rali wrth i nifer o ddigwyddiadau gael eu cynnal i nodi cyfraniad Colin McRae i ralïo ar draws y byd. Yr Albanwr oedd y gyrrwr ieuengaf erioed i gael ei goroni fel pencampwr y byd yn 1995.

Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn go iawn fore dydd Gwener yn fforest Hafren ger Llanidloes ym Mhowys.

Fe fydd y rasio yn dod i ben ddydd Sul, gyda'r cystadlu yn cael ei gynnal ar fynydd Hiraethog yn Sir Ddinbych, ar Ben y Gogarth yn Llandudno, cyn gorffen ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Image copyright Getty Images