M4: Tân bws mini wedi ei ddiffodd

Traffig m4 Image copyright Traffic Wales

Cafodd rhan o'r M4 ei gau pan aeth bws mini ar dân nos Iau.

Dihangodd teithwyr y bws mini a gadael y cerbyd ar y draffordd rhwng C35 a C36.

Roedden nhw allan o'r cerbyd pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, a cawson eu hasesu gan barafeddygon.