Swyddi Nadolig: Y Celtic Manor yn talu llai i Mrs Corn

Mr a Mrs Corn Image copyright Thinkstock/PA
Image caption Fyddai Mrs Corn ddim yn ennill cymaint â'i gŵr yn y Celtic Manor

Mae'r Gwesty'r Celtic Manor yn chwilio am wraig i'w Siôn Corn - ond am lawer llai o gyflog.

Mae'r gwesty ger Casnewydd yn cynnig swydd dros dro fel Siôn Corn am £12 yr awr.

Ond dim ond £6.70 yr awr bydd Mrs Corn yn cael ei thalu.

Dywedodd llefarydd ar ran y Celtic Manor mai'r rheswm am y gwahaniaeth cyflog oedd eu bod yn swyddi "gwahanol iawn".

Siôn Corn fydd y "seren," meddai'r llefarydd, tra bod gan Mrs Corn "ran ategol".

"Mae'r gwahaniaeth cyflog yn adlewyrchu'r angen am fwy o sgiliau pan yn chwarae rhan Siôn Corn", meddai.

"Nid ydyw'n adlewyrchu gwahaniaeth cyflog rhwng dynion a merched yn Christmas Kingdom."