Gwyntoedd o 70mya yn taro Cymru ar ôl rhybudd tywydd

Aberystwyth
Image caption Tonnau yn codi dros y gwaith adeiladu ar y bandstand newydd yn Abertawe fore Gwener

Mae gwyntoedd o hyd at 70mya wedi taro Cymru ar ôl i rybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" gael ei osod gan y Swyddfa Dywydd.

Roedd band o law yn pasio dros y canolbarth, y de a'r gorllewin fore Gwener.

Fe gafodd wyntoedd o rwng 60 a 70mya eu cofnodi yn ne Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod y rhybuddion mewn lle o 04:00 nes 10:00, ac y gallai arwain at "amodau gyrru anodd".

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud bod rhybudd llifogydd mewn grym yn Aberystwyth, ac mae wyth rhybudd arall "byddwch yn ymwybodol" mewn grym ar hyd arfordir y gorllewin.

Mae'r tywydd yn golygu bod cyfyngiadau ar Bont Hafren, gyda Phont Cleddau yn Sir Benfro a Phont Britannia rhwng Gwynedd a Môn ar gau i rhai cerbydau.

Mae beiciau a beiciau modur yn cael eu cynghori i osgoi Pont Cleddau.